Neidio at y cynnwys

S4C

TENDR PLANT - CYTUNDEB DRAFFT

07-Maw-2007

Cytundeb i gynhyrchu dolenni cyflwyno rhwng Rhaglenni Plant S4C

Ar y 31ain o Ionawr cyhoeddodd S4C wahoddiad i dendr ar gyfer cynhyrchu dolenni cyflwyno rhwng rhaglenni plant S4C.

Nodwyd yn Atodlen DD o’r Gwahoddiad i Dendr y byddai S4C yn cyhoeddi cytundeb drafft. Mae’r cytundeb drafft ar gael fan hyn (pdf).

Gofynnwn i chi gyflwyno unrhyw sylwadau ar y cytundeb drafft erbyn canol dydd ar ddydd Mawrth 20 Mawrth 2007, os yn bosib. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib a chan fod oedi wedi bod cyn cyhoeddi’r cytundeb drafft, mae S4C yn barod i dderbyn sylwadau hyd at 5 o’r gloch (fan hwyraf) ar ddydd Mercher 21 Mawrth 2007 . Rhaid anfon eich sylwadau i: tendr.plant@s4c.co.uk.

Ymhob agwedd arall, mae’r Gwahoddiad i Dendr yn aros yr un fath.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales