Neidio at y cynnwys

S4C

GŴYL CYFRYNGAU CELTAIDD 29 Mawrth 2007–Araith gan Iona Jones, Prif Weithredwr, S4C

30-Maw-2007

GŴYL CYFRYNGAU CELTAIDD
Araith gan Iona Jones, Prif Weithredwr, S4C
Ynys Skye, 29 Mawrth 2007

Diolch yn fawr a bore da cyd-Gymry a chyd-Geltiaid.


Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r trefnwyr am fy ngwahodd yma i’ch hannerch heddiw. Mae’n wych bod yma ar Ynys Skye ac i gael y cyfle hwn i fyfyrio rhyw ychydig am gyfraniad S4C i ddatblygiad darlledu yn ddiweddar, fel un o ddarlledwyr ieithoedd brodorol y DU. Ar y cyd â chydweithwyr mewn gwledydd Celtaidd eraill, rydym yn darparu elfen holl bwysig o ran plwraliaeth ac amrywiaeth – dwy agwedd bwysig ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, a dwy agwedd, y byddwn yn dadlau, sy’n mynd i fod yn gynyddol bwysig wrth i’r newid i ddigidol ddynesu.

O edrych ar y rhestr enwebiadau am wobrau, mae’n amlwg bod y cyfryngau Celtaidd yn iach. Mae’r ansawdd, y creadigrwydd a’r arloesedd a ddangosir yn brawf o hynny, a chan wisgo fy het S4C am funud, rydw i wrth fy modd bod ein cynyrchiadau wedi llwyddo i sicrhau 10 enwebiad eleni yn erbyn cystadleuaeth gref iawn.

Fel y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol, bydd S4C yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni. Darlledwyd y sianel am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982. Ddwy flynedd yn gynharach, cynhaliwyd yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd gyntaf, ei theitl y pryd hwnnw, yn Ynysoedd Gorllewinol yr Alban.

Mae’n siŵr bod y ffaith nad ydym mwyach yn cael ein hystyried yn allbyst ymylol ar gyrion diwydiant darlledu a ffilm y DU, yn brawf o’r datblygiad y mae’r diwydiant cyfryngau Celtaidd wedi’i sicrhau dros y blynyddoedd dilynol. Diolch i waith yr Ŵyl hon, mae’n siŵr bod llif y cynyrchiadau rhyngwladol arobryn ac ymdrechion darlledwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, awduron a pherfformwyr ar y cyd, wedi sicrhau bod y term “cyrion Celtaidd” wedi cael ei daflu i’r bin diwylliannol.

Ni ddylem ddiystyru rôl y Senedd ac Ofcom yn y datblygiad hwn. Trwy nodi fframwaith ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol ym maes darlledu, mae Deddf Gyfathrebu 2003 yn dwysáu pwysigrwydd ieithoedd brodorol y DU fel testun polisi cyhoeddus. Yn ogystal, gwelwyd Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Teledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn 2005 yn parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth teledu mewn ieithoedd Celtaidd ar ôl y newid i ddigidol.

Dylid croesawu’r cynigion i sefydlu sianel deledu Aeleg newydd i’r Alban yn fawr, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Gaelic Media Service, BBC’r Alban a chydweithwyr eraill gyda’r fenter hon.


Wrth gwrs, mae S4C wedi bod yn y sefyllfa freintiedig o gael cytundeb ers dros ddwy ddegawd. Gwelwyd llwyddiannau, a rhai anawsterau, ar hyd y daith. O gofio hyn, penderfynais ddefnyddio’r fforwm heddiw i drafod sefyllfa S4C heddiw yn nhirlun y cyfryngau. Mae un peth yn sicr: mae’n amgylchedd sy’n wahanol iawn i’r un a arweiniodd at sefydlu’r sianel 25 o flynyddoedd yn ôl.

Heddiw, yn yr un modd â darlledwyr eraill, un o’r sialensiau allweddol sy’n wynebu S4C yw’r newid i deledu digidol, a fydd yn digwydd yng Nghymru yn 2009/2010. Pan fydd y signal analog yn cael ei ddiffodd o’r diwedd, bydd S4C yn datblygu i fod yn sianel Gymraeg ar ei phen ei hun, heb iddi orfod ailddarlledu rhaglenni Channel 4.

Felly, y prif beth y byddwn yn canolbwyntio arno fydd sicrhau bod S4C mewn sefyllfa dda i gystadlu’n effeithiol yn y byd aml-sianel ac aml-gyfrwng. Mae wyth deg y cant o’r cartrefi yng Nghymru yn cael teledu digidol yn barod, o’i gymharu â 73% yng ngweddill y DU, felly mae’r amgylchedd gweithredu newydd wedi hen gychwyn. Mae nifer o’n gwylwyr yn ein gwylio ar S4C Digidol yn barod, sef y templed ar gyfer ein gwasanaeth hollol Gymraeg ar ôl y newid i ddigidol.

Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, aethom ati’n ddiweddar i ailfrandio’r sianel yn sylweddol – nid oeddem wedi gwneud hyn ers 13 o flynyddoedd. Dyma’r cam diweddaraf yn y cynlluniau i foderneiddio’r sianel. Y diben yw sicrhau bod S4C yn cael ei gweld fel arweinydd o ran cynnwys o ansawdd uchel, sy’n wreiddiol ac sy’n berthnasol yn ddiwylliannol, trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond – nid yw hyn wedi bod o ganlyniad i ddymuniad i newid – bu’n rhaid i S4C newid. Gwelwyd y sianel yn dioddef dirywiad mawr yn y ffigurau gwylio ar ddechrau’r Mileniwm, a gofynnwyd cwestiynau am gynaladwyedd gwasanaethau S4C ar ôl y newid i ddigidol. Ein Strategaeth Greadigol 2004 a’r rhaglen ddiwygio barhaus yw’n hymateb i sialensiau’r amgylchedd amlgyfrwng, aml-lwyfan newydd.

Er mai ni yw’r unig ddarlledwr gwasanaethau teledu Cymraeg, rydym yn gweithio mewn amgylchedd cystadleuol yn erbyn y gorau o’r diwydiant creadigol yn y DU. Roedd y Strategaeth Rhagoriaeth Greadigol yn golygu gwaredu sefydliadaeth, gan gadw ein gwerthoedd craidd. Yn ogystal, trawsnewidiwyd ein perthynas gyda budd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys Ofcom, y BBC a’r sector annibynnol, y maent oll yn hanfodol i gynaladwyedd ein gwasanaeth unigryw.

Sicrhau bod S4C yn berthnasol ac yn ddeniadol i gynulleidfaoedd oedd un o’r sialensiau yr aethom ati i ddelio â nhw, a’n nod yw sicrhau bod y sianel yn brif ddarparwr cynnwys o ansawdd uchel – gan gynnwys digwyddiadau byw, rhaglenni plant, drama, diwylliant, adloniant, newyddion, materion cyfoes, rhaglenni ffordd o fyw a rhaglenni gwledig.

Mae’r strategaeth hon yn dwyn ffrwyth, ar y sgrîn yn bwysicach na dim, wrth i ni sicrhau ffigurau gwylio uwch. Yn 2005, gwelsom gynnydd o 11% o flwyddyn i flwyddyn yn y ffigurau gwylio yn ystod yr oriau brig, a chynnydd pellach o 3% yn 2006. Mae’n cynulleidfa’n mynd yn iau hefyd, gyda 31% o’r gwylwyr dan 45 oed yn 2006. Mae 69% dros 45 oed, felly mae gennym ragor o waith i’w wneud yn hyn o beth o hyd. Nid ydw i’n diystyru’r ymdrech a’r pryder sy’n gysylltiedig â chyflawni’r gwrthdroad hwn, ac nid ydw i’n diystyru’r sialens a wynebwn wrth gryfhau’r perfformiad gwell hwn ymhellach. Ond mae gennym y penderfyniad a’r ymrwymiad i ddal ati.

Gan fod S4C yn cael ei hariannu gan gymorth grant yn bennaf – gyda chyfraniad gan ffi drwydded y BBC a refeniw masnachol – mae’n hanfodol bod ein harioan cyhoeddus yn sicrhau cymaint o effaith ag y bo modd. Cynlluniwyd ein strategaeth aml-gyfrwng i ddelio â’r broses o ddarparu’r cynnwys cyfredol a darparu cynnwys newydd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cynnwys ar gael yn rhad ac am ddim i’n gwylwyr a’n defnyddwyr. Ein nod strategol wrth symud ymlaen yw datblygu’n presenoldeb ar prif lwyfannau digidol. Ar hyn o bryd, gallwch wylio S4C y tu allan i Gymru yn rhad ac am ddim ar sianel 135 Sky. Mae ar gael ar Freeview a chebl yng Nghymru.

O ran band llydan, mae S4C eisoes ar gael ar ffurf fideo-ar-alw a llwyddwyd y llynedd i gyflwyno darllediadau o’r holl brif ddigwyddiadau diwylliannol yng Nghymru. Bwriadwn ymestyn yr adnodd hwn trwy gyflwyno ein gwasanaeth dyddiol dros yr wythnosau nesaf. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi manylion cytundeb gyda Freewire, darparwr IPTV mawr, i roi’r dewis i fyfyrwyr mewn colegau i wylio S4C trwy gyfrwng cyswllt rhyngrwyd mewn neuaddau preswyl.

Yn 2001, dangosodd y Cyfrifiad bod 158,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw y tu allan i Gymru yn y DU. Felly ni ddylid cyfyngu ar ein cyfraniad i gynnal y diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg i Gymru yn unig. Dylai fod ar gael i’r Cymry ar wasgar a’r rhai sydd â diddordeb mewn cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel.

Mae ymrwymiad TG4 i gyrraedd y rhai ar wasgar o Iwerddon yn amlygu’r angen i hyrwyddo amrywiaeth y diwylliant a ddarparir gan ddarlledwyr ieithoedd brodorol, ar draws y DU a thu hwnt.

Credwn y dylem fod ar gael i’r cyhoedd ar draws yr holl brif lwyfannau yn y DU, ac rydym wedi gofyn i’r BBC a DCMS i ystyried trosglwyddiad ein gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU ar ôl y newid i ddigidol.

Yn y bôn, uchelgais byd-eang sydd gennym. Rydym yn ymwybodol o’r ffaith bod marchnad i gynnwys S4C mewn gwledydd tramor, ac o hyrwyddo ac adlewyrchu Cymru fodern ar draws y byd. Er enghraifft, gwerthwyd rhaglenni S4C i droi 30 o wledydd yn ystod 2006 yn unig.

Yn ddibynnol ar glirio hawliau a gofynion ein darparwyr cynnwys, mae cydgyfeiriant yn galluogi hyn i gael ei wireddu trwy gynnig cyfleoedd digidol newydd. Y llynedd, gwelwyd 707,000 o ymweliadau o bob cwr o’r byd â’n gwefan, a oedd yn cynnwys darllediadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Trwy gyfrwng sylw yn y wasg, llwyddodd ein cais i Jonesiaid y byd ddod at ei gilydd i dorri record byd, gyrraedd 27 miliwn o bobl yng Ngogledd America. Yn ogystal, arweiniodd at gyfranogwyr o’r UD, Awstralia a thu hwnt yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf i fwynhau ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw. At hynny, rydym bellach yn y Guinness Book of Records!

Hoffwn gyfeirio at ddau genre o raglenni sydd o bwysigrwydd arbennig i S4C: chwaraeon a phlant.

Mae chwaraeon yn rhan annatod o’n gwasanaeth, gan sicrhau ffigurau gwylio sylweddol o bob cwr o Gymru. Mae’n portffolio yn cynnwys rygbi rhyngwladol a chartref o Gymru, y DU a gweddill y byd, pêl-droed rhyngwladol, ralïo a – llwyddiant cwlt – rasio harnes. Rydym wedi sicrhau’r hawliau Cymraeg i Gwpan Rygbi’r Byd 2007 a byddwn yn darlledu o leiaf 18 o gemau byw ac uchafbwyntiau trwy gydol y bencampwriaeth. Rydym yn ffyddiog y bydd tîm rygbi Cymru wedi ailddarganfod y safon a arweiniodd at ennill y Gamp Lawn yn 2005 unwaith eto!

Mae darparu rhaglenni a gwasanaethau i blant yn gysyniad allweddol mewn darlledu gwasanaeth cyhoeddus, fel y tanlinellwyd gan adolygiad presennol Ofcom o’r genre. Mae’n amlwg bod plant yn farchnad graidd i S4C. Gan ymateb i hyn, rydym wedi dyblu’r buddsoddiad yn y ddarpariaeth i blant dan oed ysgol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Darlledwyd gwerth dros 1,100 awr o raglenni plant ar S4C yn 2006.

Mae’r angen i ymgysylltu â phobl ifanc yn amlycach fyth pan ystyrir patrwm newidiol siaradwyr Cymraeg.

Heddiw, mae 21% o’r boblogaeth yng Nghymru yn siarad yr iaith ac mae nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc yn parhau i godi. Yn ystod y 90au, gwelwyd cynnydd o 50% yn nifer y plant a phobl ifanc 5 i 24 oed sy’n gallu siarad Cymraeg.

Ar hyn o bryd, fel rhan o'n symudiad i allanoli’r broses o ddarparu cynnwys a gwasanaethau, rydym yn y broses o bennu cwmni annibynnol i gyflenwi cyflwyniad ein gwasanaeth i blant – a gynhyrchir yn fewnol ar hyn o bryd. A bwriadwn ddiwallu anghenion y gynulleidfa iau ymhellach fyth. Fis nesaf, bydd Awdurdod S4C yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch creu sianel newydd i blant, gan sicrhau mwy o amrywiaeth fyth i’r ddarpariaeth yn y genre pwysig hwn. Ni fyddwn yn ceisio cronfeydd ariannol ychwanegol ar gyfer lansiad y gwasanaeth hwn, a fydd yn barod i’w ddarlledu yn ystod y Gwanwyn 2008. Rhoddwyd hwb ariannol i’r ehangu hwn yr wythnos diwethaf wrth i S4C lofnodi cytundeb gyda Hit Entertainment, gan werthu ein cyfran yn Sam Tân.

Rhan allweddol o’r agenda Rhagoriaeth Greadigol fu cyflwyno newidiadau i’n perthynas gyda’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru, sydd o bwysigrwydd strategol mawr i ni – ac sy’n darparu’r rhan fwyaf o’n rhaglenni. Yng Nghymru, mae tua 40 o gwmnïau’n darparu cynnwys ar hyn o bryd, mewn marchnad sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol.

Rydym yn dymuno grymuso cynhyrchwyr annibynnol ymhellach, yn greadigol ac yn fasnachol, ac i’r perwyl hwnnw, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau. Bydd y cam a gymrwyd gennym yn ddiweddar i ailstrwythuro’r Gyfarwyddiaeth Gomisiynu yn ein helpu i feithrin perthynas fwy cydweithrediadol gyda chynhyrchwyr allanol.

Mae’r amodau masnachu newydd y cytunwyd arnynt gyda TAC, y corff sy’n cynrychioli’r cwmnïau annibynnol yng Nghymru, yn golygu ein bod bellach yn trwyddedu rhaglenni am gyfnod, yn hytrach na’u prynu i mewn, gan roi’r cyfle i gynhyrchwyr ymelwa ar eu hawliau mewn ffordd fasnachol. Rydym hefyd yn cyflawni’r broses o ailgyfeirio archif S4C i gynhyrchwyr gwreiddiol. Mae hyn y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol ac yn cael ei ystyried yn ddull gweithredu unigryw a blaengar ym maes rheoli hawliau.

Rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn ariannu datblygu hefyd. Yn hytrach na chynorthwyo prosiectau mewn ffordd dameidiog, rydym wedi buddsoddi mewn pum cwmni, ac mae hyn yn eu galluogi i bennu strwythurau cynaliadwy a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Yn ogystal, rydym wedi gosod contractau mawr allan i dendr, er mwyn sicrhau eu bod yn fwy tryloyw ac yn fwy cystadleuol. Canlyniad y dull gweithredu hwn fu creu “marchnad” lle y mae cwmnïau’n cystadlu’n erbyn ei gilydd – mae gennym y rhai sy’n ennill a’r rhai sy’n colli. Mae’r syniad o gomisiynu cynnwys er mwyn cynnal diwylliant o gymorthdaliadau, yn anathema i mi.

Rhaid bod hyn oll yn newyddion da i les creadigol ac economaidd y sector darlledu yng Nghymru. Ac mae cyhoeddiad yr uno arfaethedig rhwng TAC a PACT yn arwydd o uchelgais cwmnïau yng Nghymru i ddefnyddio gwerth eu perthynas gydag S4C i ddatblygu a thyfu eu presenoldeb yn y DU.

O ran y sefyllfa economaidd, rydym wedi comisiynu astudiaeth annibynnol yn ddiweddar i asesu a mesur effaith gweithgareddau S4C ar economi Cymru rhwng 2002 a 2006.

Yn ogystal, bydd y gwaith yn ystyried effaith y newid i ddigidol yn 2009 ar y sector cynhyrchu yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys asesiad annibynnol o effeithiolrwydd y gadwyn gyflenwi bresennol hefyd, yn ogystal â’r rhagolygon o ran plwraliaeth, cynaladwyedd ac arloesedd ychwanegol.

Mae’r dynamig rhwng rhaglenni teledu a chynnwys cyfryngau newydd yn nodwedd sy’n gynyddol bwysig ym mhroses gomisiynu S4C. Mae hyn, yn ogystal â newidiadau sectorol eraill, wedi arwain at ailwampio strategaeth hyfforddi S4C, er mwyn datblygu sgiliau traws-lwyfan ac aml-lwyfan trosglwyddadwy. Felly, ni allwn ragweld sefyllfa lle y bydd cynnwys cyfryngau newydd yn cael ei wahanu o’r buddsoddiad mewn rhaglenni teledu traddodiadol. Dyma’r rheswm, yn rhannol, pam nad archwiliad Ofcom i rôl posibl ar gyfer chwaraewr ychwanegol (ar ffurf cyhoeddwr gwasanaeth cyhoeddus) yw’r unig ateb i feysydd penodol sy’n peri pryder.

Ac i’r BBC. Mae’n perthynas gyda’r BBC wedi newid hefyd yn dilyn y Papur Gwyn ac Adnewyddu’r Siarter. Mae partneriaeth strategol newydd a gyhoeddwyd yn ystod yr hydref y llynedd, yn cryfhau cefnogaeth y Gorfforaeth i ddarlledu Cymraeg trwy S4C, gyda rhagor o raglenni a mwy o fuddsoddi. Ac am y tro cyntaf, bydd rhaglenni a gynhyrchir gan y BBC ar gael ar wasanaethau band llydan ac ar-alw S4C.

Yng ngoleuni’r ddadl ynghylch sicrhau bod rhan o ffi’r drwydded yn cael ei darparu i ddarlledwyr eraill, mae’n werth i ni atgoffa’n hunain bod S4C wedi elwa o drefniant o’r fath ers y dechrau, trwy gyfrwng ymrwymiad y BBC i raglenni Cymraeg ar ffurf gwerth 10 awr yr wythnos. Mae’r Bartneriaeth newydd yn newid sylweddol gan fod gennym ymrwymiad ariannol gan ffi’r drwydded am y dair blynedd nesaf, yn ogystal â fframwaith golygyddol i sicrhau y bodlonir anghenion strategaeth S4C a chynnwys y BBC yn llawn.

Yn olaf, mae Awdurdod S4C wedi mabwysiadu fframwaith newydd i sicrhau pellter priodol rhyngddo a thîm gweithredol S4C er mwyn sicrhau mwy o atebolrwydd a thryloywder. Fel rhan o’r trefniant newydd hwn, sefydlwyd Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd a bydd cyfarwyddwr anweithredol yn ymuno â ni cyn bo hir. Y sialens i ni nawr yw i ddatblygu S4C mewn cyfnod o newid cyflym i’n sector – o ran technoleg, dosbarthiad, cynnwys, twf economaidd ac amrywiaeth ddiwylliannol.

Gadewch i mi orffen gyda rhai ystyriaethau am y gair olaf ond un yn y rhestr: “diwylliant”. Mae’n siŵr mai diddordeb a rennir yn ein diwylliant Celtaidd cyffredin sydd wedi’n dwyn i Skye y penwythnos hwn. Diwylliant, a ddiffinnir gan ein traddodiadau a’n hieithoedd gwahanol, diwylliant a ymgorfforir gan yr hyn y teimlwn yn angerddol amdanynt, ein diddordebau a’n hagweddau.

Heddiw, mae technolegau dosbarthu cynnwys newydd yn galluogi’r darlledwyr Celtaidd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd – brodorol ac fel arall – mewn ffyrdd nas credwyd y byddent erioed yn bosibl ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae sialensiau’r oes ddigidol – gostyngiad mewn incwm masnachol, cynulleidfaoedd sy’n ymrannu ac ati – yn cael eu cydbwyso gan gyfleoedd ffres. Trwy ysbrydoli ein gilydd i sicrhau rhagoriaeth greadigol a hyrwyddo ein diwylliannau gwahanol, credaf yn gryf y gall darlledwyr Celtaidd wneud argraff fwy fyth ar dirlun cyfryngau y byd.

Diolch am wrando. Diolch yn fawr.

[Diwedd]


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales