YSWIRIANT/IECHYD A DIOGELWCH
16-Ebr-2007
Yswiriant Cynhyrchiad
Daeth cynllun hunan yswirio S4C i ben ar 31 Rhagyfr 2006 felly fe atgoffir cynhyrchwyr o’r angen i sicrhau eu bod yn trefnu yswiriant digonol ar gyfer y cynhyrchiad. Fe’u hatgoffir yn benodol y dylai’r yswiriant hwnnw fod mewn lle ar ddechrau’r cyfnod cyn gynhyrchu gan fod y cwmni yn atebol o’r dyddiad hwnnw. Gall peidio trefnu yswiriant mewn da bryd adael y cwmni cynhyrchu yn agored i hawliadau yn eu herbyn. Dylai cwmniau cynhyrchu drafod anghenion yswirio’r cynhyrchiad gyda’u broceriaid mor fuan ag sy’n bosib cyn dechrau ar y cyfnod cynhyrchu. Am fanylion pellach cysylltwch gyda’ch brocer neu gyda TAC.
Cyfrifoldeb y cwmni yw sicrhau fod yswiriant addas a digonol mewn lle felly ni fydd S4C am weld copi o’r polisi. Mi fyddwn, er hynny yn gofyn am gadarnhau bod yswiriant yn ei le cyn gwneud y taliad cyntaf ar unrhyw gynhyrchiad.
Iechyd a Diogelwch/Person Cymwys
Atgoffir cwmniau hefyd o’r angen i sicrhau fod gan y Person Cymwys ar gyfer Iechyd a Diogelwch a enwir yn y brîff golygyddol a busnes gymhwyster X3 cyfredol mewn Iechyd a Diogelwch sydd wedi’i adnewyddu o fewn y tair blynedd diwethaf.
