DYLAN GRIFFITH
01-Mai-2007
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd Dylan Griffith yn parhau i wasanaethu S4C gyda’i deitl yn newid i Gyfarwyddwr Creadigol S4C. Bydd Dylan yn gweithio gyda'r Prif Weithredwr i sicrhau cyflawni ein hamcanion creadigol drwy holl Gyfarwyddiaethau S4C ac yn allanol. Yn ogystal, bydd Dylan yn rheoli ac yn arwain ein tîm graffeg talentog o hyn allan.
