GWAHODDIAD I DENDR
11-Mai-2007
Gŵyl Cerdd Dant Cymru 2007–2009
Mae’r Ŵyl Gerdd Dant yn ddigwyddiad blynyddol sy’n un o’r uchelfannau yn ein hamserlen ddarlledu.
Mae S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu rhaglenni o Ŵyl Cerdd Dant Cymru am y cyfnod 2007 i 2009. Dymunwn dendro’r gwaith o gynhyrchu’r ddarpariaeth o’r Ŵyl am gyfnod y cytundeb, gan gychwyn gyda rhaglenni o Ŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a’r Fro ym mis Tachwedd 2007.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
