GWAHODDIAD I DENDR - RYGBI'R GYNGHRAIR
18-Mai-2007
Mae S4C mewn trafodaethau i sicrhau hawliau i ddarlledu, ar wasanaethau S4C gemau byw'r Celtic Crusaders o Ail Adran y Gynghrair Cydweithredol Genedlaethol. Mae’r tendr yma yn ddibynnol ar i S4C arwyddo’r cytundeb hawliau. Y bwriad yw darlledu o leiaf 4 gêm fyw'r tymor yma - yr amserlen arfaethedig yw'r 9fed o Fehefin 2007, 23ain o Fehefin 2007, 30ain o Fehefin 2007 ac un gêm ym mis Awst 2007. Cynhelir y gemau yma i gyd ar Gae’r Bragdy, Pen-y-bont.
Darllen mwy am y tendr
