SWYDDI GWAG
29-Meh-2007
Wrth baratoi ar gyfer y newid i ddigidol, mae S4C wedi ailstrwythuro ei gweithgareddau cyfathrebu, gan uno tair adran fewnol i un gyfarwyddiaeth integreiddiedig. Mae hyrwyddo S4C yn effeithiol - yn y cyfryngau, trwy farchnata ar ac oddi ar yr awyr ac ar-lein - yn hollbwysig wrth gefnogi strategaeth rhagoriaeth creadigol S4C a’r brand newydd arobryn. Rydym yn chwilio am unigolion talentog ar gyfer y swyddi canlynol:
Golygydd, Gwasanaethau Gwybodaeth
Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn rheoli tîm bychan sy’n gyfrifol am ddosbarthu gwybodaeth am S4C ar y we, drwy’r amserlenni rhaglenni, lluniau a chynnwys golygyddol. Byddwch yn gyfrifol am ddod o hyd i wybodaeth a’i chyhoeddi ar wefan S4C yn ogystal â rheoli amrywiaeth o brosiectau a chleientau allanol. Mae profiad o reoli cyllidebau yn hanfodol.
Dylunydd y We
Byddwch yn creu a dosbarthu cynnwys a rhaglenni aml-gyfryngol
a rhyngweithiol ar gyfer safle we S4C, gan sicrhau eu bod yn
cydymffurfio gyda chanllawiau corfforaethol.
Mae’r ddwy swydd uchod yn gofyn am brofiad mewn datblygu cyfryngau newydd gyda phwyslais ar weithredu safonau W3C (World Wide Web Consortium) ar gyfer y we. Mae technegau hygyrchedd ymarfer gorau a gwybodaeth arbennig o (X) HTML, CSS, javaScript a thechnolegau ochr y gweinydd, gyda phwyslais ar LAMP, yn hanfodol ar gyfer y ddwy swydd.
Uwch Swyddog Cyfathrebu
Lleolir y swydd hon yn ein swyddfa yng Nghaernarfon. Byddwch yn
datblygu proffil cyhoeddus cryf i S4C drwy gynllunio gweithgaredd
cyfryngol, cefnogi ymgyrchoedd marchnata allweddol, trefnu
digwyddiadau a rheoli’r berthynas gyda chwmnïau cynhyrchu
annibynnol a chyrff a chwmniau perthnasol eraill, yn bennaf
yng Ngogledd Cymru. Mae sgiliau ysgrifennu da yn y Gymraeg
a’r Saesneg, ynghyd ag arbenigedd cryf ym maes cyfryngau a
chysylltiadau cyhoeddus yn hanfodol. Yn ddelfrydol, bydd gennych
gefndir sy’n cyfuno cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.
Cynhyrchydd Trels
Byddwch yn aelod o’r tîm mewnol sy’n cynhyrchu hyrwyddiadau o
safon uchel ar y sgrin, gan adlewyrchu’r amrywiaeth eang o raglenni a gwasanaethau a gynigir gan S4C. Mae profiad o gynhyrchu, cyfarwyddo a/neu olygu, gyda’r gallu i ysgrifennu sgriptiau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Rhaid eich bod yn greadigol a brwdfrydig gyda’r gallu i droi syniadau yn ymgyrchoedd cofiadwy ar y sgrin.
Cydlynydd Trels
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau yn ymwneud â
chynhyrchu hyrwyddiadau ar y sgrin, gan weithio’n agos gyda’r
cynhyrchwyr mewnol a chwmnïau cynhyrchu allanol. Mae sgiliau
trefnu rhagorol, y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, a
phrofiad o weithdrefnau cynhyrchu a darlledu yn hanfodol.
Gellir cael manylion pellach a ffurflen gais ar wefan S4C –
www.s4c.co.uk/swyddi neu drwy gysylltu â Claire Thomas, Swyddog Adnoddau Dynol, yn y cyfeiriad isod.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 23 Gorffennaf 2007.
Gweithredir polisi cyfle cyfartal.

