Neidio at y cynnwys

S4C

GWASANAETHAU FFÔN GRADDFA UWCH

24-Gorff-2007

Ym mis Mawrth eleni penderfynodd S4C ymchwilio i’r trefniadau am y cystadlaethau, a’r defnydd o linellau ffôn/testun, yn y cynnwys a gomisiynir gennym.

Prin yw’r achosion lle codir ffi am alwadau gan wylwyr S4C. Lle mae ffi yn daladwy mae’r adolygiad wedi cadarnhau bod y defnydd yn cael ei reoli’n deg a (lle’n berthnasol) yn unol â chanllawiau ICSTIS.

Yn sgîl yr adolygiad, mae S4C wedi cyflwyno trefniadau newydd yn fewnol:

• Mae’r Briff Golygyddol a Busnes yn gofyn i gynhyrchwyr nodi manylion a threfniadau lle defnyddir llinellau ffôn. Mae’r manylion i’w nodi yn adran 2.1 o’r brîff a gall S4C ofyn am amlinelliad o’r trefniadau (gan gynnwys manylion am unrhyw is-gytundeb, cost galwadau a threfniadau dewis ennillwyr). Dylid trafod y manylion gyda’r Golygydd Cynnwys.

• Mae Emlyn Penny Jones yn cyd-lynu’r wybodaeth am gystadlaethau a defnydd o linellau ffôn/testun.

Bydd S4C yn ystyried y trefniadau ymhellach yn sgîl argymhellion Richard Ayre (ar ran Ofcom) wedi’r ymchwiliad i wasanaethau ffôn graddfa uwch.

Darllenwch manylion ac argymhellion yr adroddiad yma

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales