Neidio at y cynnwys

S4C

SIANEL I BLANT – Y DIWEDDARAF

08-Awst-2007

Mae’r broses o ddadansoddi’r ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus Awdurdod S4C i gynlluniau i sefydlu sianel i blant yn cychwyn yn dilyn dyddiad cau’r ymgynghoriad ar 20 Gorffennaf.

Derbyniwyd bron i 500 o ymatebion, gan blant, unigolion a sefydliadau. Dros yr haf, bydd Awdurdod S4C yn cynnal y gwaith dadansoddi ac yn adnabod y ffordd ymlaen.

Meddai John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, “Mae lefel yr ymateb i’r ymgynghoriad wedi bod yn galonogol iawn ac ry’n ni’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd ei sylwadau. Mae’n amlwg fod y syniad o sefydlu sianel i blant wedi cydio yn y dychymyg.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales