NODYN ATGOFFA I GYNHYRCHWYR
24-Medi-2007
Er mwyn osgoi gorfod dychwelyd tapiau a’r gost gysylltiedig i gynhyrchwyr o orfod ail wneud gwaith fe ddylai cynhyrchwyr sicrhau fod unrhyw raglen yn cydymffurfio gyda’r gofynion technegol sy’n ffurfio rhan o’r cytundeb. Yn benodol, mi fydd S4C yn gwrthod unrhyw raglen na fydd yn cydymffurfio gyda’r gofynion canlynol:-
PETHAU I’W HANFON GYDA RHAGLENNI WEDI’U RECORDIO
Fel sy’n cael ei nodi yn y gofynion technegol dim ond DVDs fydd yn cael eu derbyn yn awr.
‘Oni chytunir yn wahanol: Hyd at fis Mai 2007 2 x copi VHS gyda sain Hi Fi neu 2 x DVD (-R) o’r prif dâp, un copi gyda chod amser wedi’i losgi i’r llun sy’n gorfod cyfateb i’r un ar y prif dâp, ac un heb god amser gweladwy. Defnyddir y rhain gan yr adran gomisiynu i adolygu’r rhaglen, a chan yr adran farchnata er mwyn dewis hyrwyddiadau, a phytiau rhagflas. Ar ôl Mai 2007, dim ond DVD’s fyddwn ni’n dderbyn.’
CYDNABYDDIAETHAU I GLOI
Hoffwn eich atgoffa hefyd o’r canllawiau cydnabyddiaethau i gloi a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 07 ac y dylid eu dilyn ar gyfer holl raglenni S4C. Gweler gopi o’r canllawiau yma
DELWEDDAU FFLACHIO NEU BATRYMAU AILADRODDOL
Mae’r gofynion technegol yn nodi’r angen i sicrhau fod rhaglenni yn cydymffurfio gyda chanllawiau Ofcom (ITC gynt) yngl?n ag epilepsi photo sensitif. Dylai hyn gael ei wneud adeg ffilmio a golygu’r rhaglen gan fod ceisio cywiro’r broblem yn hwyrach yn cymryd amser ac yn medru bod yn amhriodol a chostus. Fe’ch cynghorir i ddarllen y canllawiau parthed Epilepsi Photosensitif yn ofalus ac yna cysylltu gyda chwmni adnoddau os oes angen er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r mater. Os rhagwelir y gall unrhyw ddeunydd greu problem yna bydd angen defnyddio mesurydd priodol yn gynnar yn y broses gynhyrchu er mwyn cadarnhau a yw’r deunydd yn cydymffurfio gyda’r canllawiau neu beidio.
