TENDR CYFRES DDOGFEN FFEITHIOL - 'WILD RUSSIA' - CWESTIYNAU AC ATEBION
28-Medi-2007
Cwestiwn 1: Ydych chi’n rhagweld bydd angen unrhyw gwmni arall heblaw S4C ac NDR?
Ateb: Ni fydd cwmnïau eraill yn rhan o’r cynhyrchu. Bydd y cwmni cynhyrchu i S4C yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r uned gynhyrchu NDR ac yn ymuno â thimau NDR ar y llawr yn Rwsia heb bresenoldeb cwmnïau o wledydd eraill. Bydd person cyswllt yn Parthenon ac S4C ond disgwylir i’r cwmni fersiynu Cymraeg ddatblygu perthynas gyda thim cynhyrchu NDR yn uniongyrchol.
Cwestiwn 2: A fydd hi’n bosib gweld y shediwl ffilmio?
Ateb: Mae hyblygrwydd bellach, yn unol ag argaeledd Iolo, sy’n cynnwys cyfnodau ar ddiwedd 2007, yn chwarter cyntaf 2008, ac yn haf 2008. Ymddengys y gallai Iolo wneud dau neu dri thrip i Rwsia mewn tymhorau gwahanol.
Cwestiwn 3: Ai’r syniad yw defnyddio criw/dynion camera NDR?
Ateb: Ar leoliad bydd nifer o griwiau arbenigol bywyd gwyllt NDR, ac ‘infrastructure’ cynhyrchu o fewn Rwsia. Bydd ‘fixer’ o’r tim NDR ar gael i’r cwmni fersiynu Cymraeg (trefnu teithio mewnol ac ati), mewn cyfnodau a ddewisir gan dim S4C i ffilmio yno, bydd disgwyl i’r cwmni cynhyrchu llwyddiannus i gyfranu tuag at ffi y ‘fixer’ tra’i bod hi’n gweithio i’r cwmni fersiynu Cymraeg. Bydd angen felly rhoi lwfans yn y gyllideb ar gyfer y fersiwn Gymraeg. Rhagwelwn y bydd Iolo, person camera ar gyfer S4C, a pherson cynhyrchu o bosib hefyd ar gyfer S4C, ar daith/lleoliad am tua 28 diwrnod. Wrth fynd a pherson camera o Gymru gellir cynnwys yr elfen o deithio i’r lleoliadau ac yn ol (maen nhw’n bellennig!) gan wneud y gorau o’r diwrnodau gyda Iolo. Yn yr amryw leoliadau eu hunain disgwylir perthynas hyblyg yn rhannu criwiau NDR.
Cwestiwn 4: Ydy NDR/Parthenon yn bwriadu defnyddio cyflwynwyr ar gyfer y fersiwn rhyngwladol neu dim ond sylwebaeth?
Ateb: Nod NDR/Parthenon yw fersiwn sylwebaeth ryngwladol heb gyflwynydd. Hyd y gwyddom dim ond S4C sy’n darlledu fersiwn gyda chyflwynydd.
Cwestiwn 5: A oes disgwyl i berson camera y cwmni cynhyrchu buddugol, fydd yn teithio gyda Iolo, saethu’r deunydd ar fanylder uwch (HD) neu ar fanylder safonol (SD)?
Ateb: Manylder Uwch (HD)
Darllen y tendr cyfan (pdf)
Triniaeth wreiddiol gan Parthenon - Saesneg yn unig (pdf)
