Neidio at y cynnwys

S4C

TENDR CYFRES DDOGFEN FFEITHIOL - 'WILD RUSSIA' - MWY O GWESTIYNAU AC ATEBION

04-Hyd-2007

SYLWER DYDDIAD CAU: 5 HYDREF 2007 12:00PM

Cwestiwn 1: Ydych chi’n rhagweld bydd angen unrhyw gwmni arall heblaw S4C ac NDR?

Ateb: Ni fydd cwmnïau eraill yn rhan o’r cynhyrchu. Bydd y cwmni cynhyrchu i S4C yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r uned gynhyrchu NDR ac yn ymuno â thimau NDR ar y llawr yn Rwsia heb bresenoldeb cwmnïau o wledydd eraill. Bydd person cyswllt yn Parthenon ac S4C ond disgwylir i’r cwmni fersiynu Cymraeg ddatblygu perthynas gyda thim cynhyrchu NDR yn uniongyrchol.

Cwestiwn 2: A fydd hi’n bosib gweld y shediwl ffilmio?

Ateb: Mae hyblygrwydd bellach, yn unol ag argaeledd Iolo, sy’n cynnwys cyfnodau ar ddiwedd 2007, yn chwarter cyntaf 2008, ac yn haf 2008. Ymddengys y gallai Iolo wneud dau neu dri thrip i Rwsia mewn tymhorau gwahanol.

Cwestiwn 3: Ai’r syniad yw defnyddio criw/dynion camera NDR?

Ateb: Ar leoliad bydd nifer o griwiau arbenigol bywyd gwyllt NDR, ac ‘infrastructure’ cynhyrchu o fewn Rwsia. Bydd ‘fixer’ o’r tim NDR ar gael i’r cwmni fersiynu Cymraeg (trefnu teithio mewnol ac ati), mewn cyfnodau a ddewisir gan dim S4C i ffilmio yno, bydd disgwyl i’r cwmni cynhyrchu llwyddiannus i gyfranu tuag at ffi y ‘fixer’ tra’i bod hi’n gweithio i’r cwmni fersiynu Cymraeg. Bydd angen felly rhoi lwfans yn y gyllideb ar gyfer y fersiwn Gymraeg. Rhagwelwn y bydd Iolo, person camera ar gyfer S4C, a pherson cynhyrchu o bosib hefyd ar gyfer S4C, ar daith/lleoliad am tua 28 diwrnod. Wrth fynd a pherson camera o Gymru gellir cynnwys yr elfen o deithio i’r lleoliadau ac yn ol
(maen nhw’n bellennig!) gan wneud y gorau o’r diwrnodau gyda Iolo. Yn yr amryw leoliadau eu hunain disgwylir perthynas hyblyg yn rhannu criwiau NDR.

Cwestiwn 4: Ydy NDR/Parthenon yn bwriadu defnyddio cyflwynwyr ar gyfer y fersiwn rhyngwladol neu dim ond sylwebaeth?

Ateb: Nod NDR/Parthenon yw fersiwn sylwebaeth ryngwladol heb gyflwynydd. Hyd y gwyddom dim ond S4C sy’n darlledu fersiwn gyda chyflwynydd.

Cwestiwn 5: A oes disgwyl i berson camera y cwmni cynhyrchu buddugol, fydd yn teithio gyda Iolo, saethu’r deunydd ar fanylder uwch (HD) neu ar fanylder safonol (SD)?

Ateb: Manylder Uwch (HD)

Cwestiwn 6: Beth yw’r gost y dylid ei nodi yn y gyllideb ar gyfer costau fixer NDR?

Ateb: Dylid seilio lwfans y fixer ar eich profiadau blaenorol o ffilmio dramor. Gellir nodi unrhyw ragdybiaethau a wneir ar wahân.

Cwestiwn 7: Pa mor hawdd yw hi i deithio o fewn Rwsia a pha fath o lwfans dylid ei nodi?

Ateb: Rydym yn awgrymu y bydd y 28 (neu efallai 30) o ddiwrnodau ffilmio yn cael eu rhannu’n dair taith i Ust Kutsk, Kamchatka a’r Caucasus. Bydd angen felly i’r lwfans teithio gynnwys lwfans ar gyfer hedfan i Foscow a nôl tair gwaith a hedfan o fewn Rwsia i’r mannau hyn. Yn gyffredinol, bydd y
lleoliadau yn gyraeddadwy drwy drip awyren mewnol gyda thrafnidiaeth ar ddiwedd y daith yn medru bod yn unrhyw beth o geffyl a chart i dacsi neu gar criw. Awgrymir eich bod yn rhoi lwfans cyfartaledd i mewn ar gyfer yr elfen hon.

Cwestiwn 8: Pa fath o lety fydd ar gael a pha fath o lwfans dylid ei nodi?

Ateb: Ar gyfartaledd, dylid caniatáu lwfans ar gyfer gwesty sylfaenol yn Rwsia am hyd at 30 noson. Mae’n bosib bydd yna arbedion os oes angen aros mewn pabell/cwt mewn rhai mannau ond gallai rhai gwestai fod o safon (a chost) uwch.

Darllen y tendr cyfan (pdf)

Triniaeth wreiddiol gan Parthenon - Saesneg yn unig (pdf)

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales