Neidio at y cynnwys

S4C

CYSTADLAETHAU YNG NGHYNNWYS S4C A DEFNYDD O WASANAETHAU FFÔN GRADDFA UWCH

28-Tach-2007

Ym mis Gorffennaf eleni cyflwynwyd trefn er mwyn cofnodi’r manylion am gystadlaethau, a/neu defnydd o linellau ffôn/testun yn y cynnwys a gomisiynir.

Mae’r Briff Golygyddol a Busnes yn gofyn i gynhyrchwyr nodi’r manylion a’r trefniadau. Mae’r canllawiau ar gyfer cwblhau’r Briff yma ar gael ar Safle Cynhyrchu S4C. Darllen y canllawiau yma
Mae’r manylion wedi eu trafod a’u cymeradwyo gan TAC.

Mae’n fwriad gan S4C a TAC i baratoi engrheiffitau ymarfer da, fydd yn hwyluso’r gwaith o lenwi’r briff a chreu canllawiau. Bydd y wybodaeth yma ar gael yn y dyfodol agos.

Gellir cysylltu gydag Emlyn Penny Jones (cyd-lynydd y wybodaeth am gystadlaethau a defnydd o linellau ffôn/testun yn S4C) os ydych eisiau trafod y mater ymhellach.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales