Neidio at y cynnwys

S4C

GWAHODDIAD I DENDR - Darpariaeth S4C o Bêl-droed Cymru

14-Ion-2008

Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau darlledu ar gyfer pêl-droed rhyngwladol Cymru a domestig tan 2012, gan ddechrau gyda thymor 2008/09. Rydym wedi sicrhau'r hawl i ddarlledu uchafbwyntiau ecsgliwsif o gêmau pêl-droed cartref Cymru, gan gynnwys rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 a Phencampwriaeth Ewrop 2012. Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys gêmau byw a phecynnau uchafbwyntiau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru yn ogystal â darpariaeth llwyfannau eraill o'r cystadlaethau hynny.
Drwy ddilyn y Strategaeth Rhaglenni gwahoddir cynhyrchwyr i gynnig am y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni byw ac uchafbwyntiau, yn ogystal ag elfennau llwyfannau eraill a fydd yn ymateb i ddisgwyliadau a dyheadau S4C.
Am fwy o fanylion cliciwch yma.

Dogfennau Atodol



Dyddiad cau: 12:00 canol dydd ar ddydd Iau'r 14eg o Chwefror 2008.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales