Skillset
16-Ion-2008
Mae Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag S4C a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd o fewn y sector clyweledol i wella eu sgiliau er mwyn cwrdd â her diwydiant sy'n esblygu'n barhaus. Mae'r fframwaith yn agored i'r holl weithwyr llawrydd a chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, ac yn cynnig asesiad anghenion hyfforddiant am ddim gan ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol (DAD), yn ogystal â chyfle i gael cyllid i fynychu cyrsiau a argymhellir. Am fwy o fanylion ewch i wefan Skillset.
