Hyfforddi - Fframwaith hyfforddiant Skillset Cymru
25-Ion-2008
Fel rhan o ymrwymiad S4C i hyfforddiant yn y diwydiant mi rydym yn gofyn i gwmniau cynhyrchu gyflwyno cynllun hyfforddiant fel rhagamod o drwydded ddarlledu. O hyn ymlaen mi fydd Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru (a lansiwyd ar 14 Ionawr 2008) yn rhoi cymorth i gwmnïau i ddatblygu a gweithredu eu cynllun hyfforddiant. Mi fydd yr wybodaeth o’r cynlluniau yn cael ei ddefnyddio gan y Fframwaith i gynllunio ac i gydlynu’r ddarpariaeth hyfforddi i’r diwydiant.
Mi fydd S4C yn hysbysu’r Fframwaith am gomisiynau posib ar adeg gwahodd y brîff golygyddol a busnes a bydd Wayne Full (Rheolydd Gwireddu Prosiect Skillset Cymru) yn cysylltu gyda’r cwmni er mwyn trefnu fod holiadur yn cael ei lenwi. Mi fydd llenwi’r holiadur yn rhag-amod o dderbyn cytundeb trwydded gan S4C a gofynnwn i chi sicrhau fod y Fframwaith wedi derbyn copi cyflawn mewn da bryd fel eu bod yn medru cydweithio gyda chi i ddatblygu cynllun addas.
Ni fydd angen anfon unrhyw wybodaeth am eich cynllun hyfforddiant yn uniongyrchol at S4C o hyn ymlaen.
Ceir mwy o wybodaeth am y Fframwaith a chopi o’r holiadur yma http://www.skillset.org/uk/cymru/training/article_6376_2.asp
