Cyfleu rhaglenni S4C – Epilepsy ffoto sensitif
20-Chwe-2008
Mae gofynion technegol S4C yn nodi’r angen i sicrhau fod rhaglenni yn cydymffurfio â chanllawiau Ofcom (ITC gynt) ynglŷn ag epilepsi photo sensitif. Mae'r rhain ar gael fel dogfen PDF ar wefan S4C ac mae copi yma er cyfleustra. Dim ond fersiwn Saesneg sydd ar gael ar hyn o bryd ond mae Ofcom yn ymgynghori ar elfennau o’r ddogfen fel rhan o’r Cod Darlledu newydd fydd yn cael ei gyhoeddi nes ymlaen yn y Gwanwyn. Bydd y ddogfen newydd yn ddwyieithog.
Caiff unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gyfleu i S4C ar gyfer ei ddarlledu ei wirio mewn nifer o ffyrdd (ac un o’r rheiny yw Epilepsi Ffoto Sensitif). Caiff unrhyw ddeunydd nad yw’n cyrraedd y gofynion cyfleu technegol sy’n cynnwys Epilepsi Ffoto Sensitif ei wrthod a’i ddychwelyd i’w gywiro. Mae’n bwysig, felly, bod gan gwmnïau cynhyrchu bolisi o sicrhau safon a chydymffurfiaeth unrhyw ddeunydd y bwriedir ei gyflwyno i S4C cyn ei gyfleu.
Petai’r deunydd yn cyrraedd yn rhy hwyr neu fod dim digon o amser i’w ddychwelyd, a’i fod yn methu a chyrraedd unrhyw feini prawf, bydd raid i S4C ddewis o’r opsiynau canlynol:
1. Gwrthod derbyn y rhaglen a chanslo’r darllediad
2. Cywiro’r diffygion a gofyn i’r cyflenwr dalu cost unrhyw adnoddau technegol a ddefnyddir.
Yn gyfredol mae dau ddarn o offer ar gael i brofi ac i dynnu sylw’r cwmni cynhyrchu o gydymffurfiaeth y cynnwys i ganllawiau Epilepsy ffoto sensitif, sef:
1. Dadansoddwr Harding – cyfarpar sy’n gweithio trwy gyfrifiadur
2. Monitor Ffoto Epilepsy HD Gordon
Mae’r dadansoddwr Harding yn uned gynhwysfawr ac yn medru rhoi dadansoddiad ac adroddiad manwl o wendidau Epilepsy ffoto sensitif. Mae’r HD Gordon yn uned symlach ac annibynnol, yn costio llai gyda’r fantais o fedru ei osod mewn mwy nag un ardal.
Pan yn cyfleu rhaglen i S4C disgwylir ei fod wedi pasio prawf Epilepsy ffoto sensitif HD Gordon.
Gall S4C wneud defnydd o’r ddau fath o offer. Bydd uned HD Gordon ynghlwm i’n gorsafoedd asesu safon a llwytho rhaglenni. Yn ystod llwytho ac asesu safon, bydd y deunydd yn mynd trwy’r uned HD Gordon ac yn rhoi arwydd o basio/methu. Fel rheol, defnyddir yr uned Harding gan S4C fel offer dadansoddi manwl lefel dyfnach.
Dylid cynnwys adroddiad yn nodi pa ddadansoddwr a ddefnyddiwyd wrth gyfleu rhaglenni. Dylid cynnwys argraffiad o’r dadansoddwr Harding fel prawf o gydymffurfiaeth. Bydd dim angen, fel arfer, i S4C ail wneud y prawf ar ein huned HD Gordon ni, bydd argraffiad o’r adroddiad yn ddigonol.
Yn achos yr HD Gordon, ni fydd argraffiad ar gael os fydd y deunydd wedi pasio. Felly, bydd cadarnhad gan y cwmni cynhyrchu bod yr uned yma wedi ei ddefnyddio i sicrhau cydymffurfiaeth Epilepsi ffoto sensitif yn ddigonol i S4C. Wedyn bydd y deunydd yn cael ei archwilio yn ystod y broses asesu safon a mewnbwnio ac wrth gwrs disgwylir iddo basio.
Mae swîts ar yr HD Gordon sy’n caniatáu newidiadau i’r sensitifrwydd. Mae gwerthoedd unedau S4C wedi ei rhagosod.
Ionawr 2008

