Neidio at y cynnwys

S4C

Cysylltiadau

Rheoli Cynnwys

Cyffredinol

Oriau Agor

9:00 - 5:15 o ddydd Llun i ddydd Gwener

Lleoliad & Cyfeiriad

S4C, Parc Ty Glas, Llanishen, Caerdydd, CF14 5DU

Cyfleu Rhaglenni / Tapiau i S4C

Dylid cyfleu:

  • 1 x Master Darlledu (fformat Digi Beta)
  • 2 x DVD (1 x i'r Comisiynydd, 1 x gyda BITC i'r Llyfrgell).

Cyfleu Tapiau yn ystod oriau gwaith (courier / post / â llaw)

Dylid cyfleu tapiau i ystafell bost S4C a chyfeirio pob pecyn yn glir at sylw'r "LLYFRGELL".

Mae croeso i chi ffonio'r Llyfrgell (029 20741209) i gadarnhau fod y tâp/tapiau ar ei/eu ffordd a gellir gadael rhif ffôn ac enw cyswllt os hoffech dderbyn cadarnhad fod y Llyfrgell wedi eu derbyn yn ddiogel.

Cyfleu Tapiau ar ôl oriau swyddfa (courier / â llaw)

Os ydych yn cyfleu rhaglen ar gyfer darllediad y noson honno dylid hysbysu'r llyfrgell yn ystod y dydd o'r amser yr amcangyfrifir y bydd y tâp yn cyrraedd S4C ac i gadarnhau trefniadau a gadael manylion cyswllt. Dylid cadw mewn cysylltiad â staff darlledu S4C tu allan i oriau swyddfa (a chyfeirio'r tâp at sylw "MCR" a nodi'n glir fod y pecyn yn cynnwys deunydd darlledu gan gynnwys y teitl a'r amser a dyddiad darlledu.)

Mae'n bosib gadael tapiau yng ngofal Diogelwch S4C y tu allan i oriau swyddfa. Dylid cyfeirio'r tapiau at sylw'r "LLYFRGELL".

Gwybodaeth gyffredinol am dapiau master ar ôl iddynt gyrraedd S4C

Neilltuir rhif tâp S4C i masters ac mae hyn yn galluogi cyfarwyddiaethau eraill i weld unrhyw wybodaeth berthnasol yn gysylltiedig â'r rhaglen a'r cynhyrchiad e.e dyddiadau cyfleu, manylion cynnwys o'r PAC, a'r " liquidated damages".

Rhoddir adolygiad technegol llawn ynghyd â phrawf PSE [HD Gordon] i raglenni sy’n cael eu cyfleu i S4C fel rhan o’r broses o lwytho rhaglenni i’r syrfyr ar gyfer y broses darlledu. Mewn achosion lle nad yw tapiau yn cydymffurfio ag anghenion technegol S4C fe'u dychwelir i'r cwmni cynhyrchu gwreiddiol i'w cywiro.

Cysylltiadau
Jen Pappas
  • Pennaeth Rheoli Cynnwys
  • Tel: 029 2074 1431
Anwen Taylor
  • Llyfrgellydd Darlledu
  • Tel: 029 2074 1209

lly// hide from spam bots //frgell-sc@s4c.co.uk

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales