Cysylltiadau
Cyfarwyddiaeth Corfforathol
Ymchwil
Mae’r uned ymchwil yn gyfrifol am gydlynnu ymchwil cynulleidfa S4C.
Mae hyn yn cynnwys ymchwil meintiol, ymchwil ansoddol, ymchwil ymysg panel ysgolion ac ymchwil marchnata.
Mae’r ymchwil meintiol yn cynnwys dadansoddiadau o banel BARB S4C, sy’n banel o 540 o gartrefi ledled Cymru. Mae’r ymchwil ansoddol fel arfer ar ffurf grwpiau trafod rheolaidd, ar bynciau gwahanol, a gomisiynir gan S4C. Mae 12 ysgol wahanol ar banel ysgolion S4C bob blwyddyn , ac fe holir y plant yn rheolaidd am raglenni plant fel arfer, a’u harferion gwylio. Fe gynhelir ymchwil gyson i’r uned farchnata ar ddelwedd S4C ac effeithiolrwydd ymgyrchoedd marchnata.
Mae’n bosib i chi gysylltu â ni i gael ffigyrau gwylio eich cyfresi neu gydag unrhyw ymholiad - cysylltwch â’r cynorthwy-ydd ymchwil, Chris Morris :
- ymchwil// Hide this address from spam bots //-sc@s4c.co.uk
- neu ffoniwch ar 02920 741429
