Neidio at y cynnwys

S4C

Y Gwasanaeth Rhaglenni

Ffurflen cyfleu syniad newydd

Croeso i'r adnodd ar gyfer cynnig syniadau newydd i S4C. Mae gan unrhyw gynhyrchydd, gwmni neu unigolyn yr hawl i gynnig syniad i S4C. Nid yw S4C yn dymuno gweithredu marchnad gaeëdig na chwaith weithredu polisi o gyflenwyr dethol ("preferred suppliers").

Mae Cod Ymarfer S4C - Ymwneud a'r Cynhyrchwyr (cymal 6.5) yn nodi: Dylai cynigion a gyflwynir fod yn glir ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n gywir. Dylid nodi lle mae cynigion wedi cael eu hanfon at fwy nag un aelod o staff S4C. Byddai S4C hefyd yn gwerthfawrogi cael gwybod pan fo cynigion wedi cael eu hanfon at ddarlledwyr eraill hefyd. Yn gyffredinol dylid cyfyngu cynigion yn y lle cyntaf i un neu ddwy dudalen gan nodi pwyntiau allweddol megis enwau cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr.

Fe fydd comisiynwyr yn ymateb i gynigion o fewn 4 wythnos. Mae S4C yn cydnabod ei bod yn werthfawr i gyflenwyr gael atebion negyddol prydlon ond er mwyn osgoi oedi nid yw'n ymrwymo i egluro'r rhesymau o fewn yr un cyfnod.

Dyma esiampl.

Cwblhewch y manylion canlynol o.g.y.dd.

Eich Manylion
Eich Syniad

(Rydym yn awgrymu uchafswm o 300 o eiriau).

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales