Pêl-droed
05-Maw-2008
Yn dilyn proses tendro agored, mae cwmni Rondo Media Cyf – uniad rhwng cwmni Nant a chwmni Opus TF - wedi ennill y cytundeb i gyfleu cynnwys gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru a gemau Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru ar gyfer S4C.
Mae’r cytundeb pedair blynedd, £5m, yn cynnwys pecyn o raglenni byw ac uchafbwyntiau, yn ogystal ag elfennau llwyfannau eraill.
