Skillset Cymru - Nawdd i ddau Gynhyrchydd Cymreig
05-Maw-2008
Mae Skillset Cymru yn noddi dau le ar gyfer Cynhyrchwyr Cymreig ar gynllun hyfforddiant newydd DV Talent, o’r enw ‘Fast Track’.
Mae Fast Track yn gynllun hyfforddiant ar gyfer Uwch-wneuthurwyr Rhaglenni llawrydd profiadol. Os oes gyda chi brofiad o fewn adloniant ffeithiol, a’r uchelgais i fod yn Gynhyrchydd Cyfres, dyma’r rhaglen hyfforddi i chi. Bydd y deg ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu sgiliau pwysig ac yn derbyn cyngor gwneuthwyr rhaglenni arloesol fel Jamie's School Dinners, Panorama, Wife Swap a The Apprentice. Nodwch- gall Cynhyrchwyr Llawrydd a Chynhyrchwyr sy’n gweithio o fewn Cwmnïoedd Cynhyrchu yng Nghymru wneud cais (dim ond cynhyrchwyr llawrydd all wneud cais yn Lloegr).
Cysylltwch â DV Talent: 0207 267 2300 neu e-bostiwch sarah@dvtalent.co.uk am fwy o fanylion
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 14eg o Fawrth.
