TENDR CYNHYRCHU DOLENNI CYFLWYNO AR GYFER DARPARIAETH ESTYNEDIG PLANT MEITHRIN S4C
12-Maw-2008
Cwestiwn 1
A allwch chi gadarnhau y bydd yn bosib defnyddio cymeriadau newydd ( yr anifeiliaid ) sydd wedi’ creu ar gyfer Planed Plant Bach sef Llew, Cyw, Bolgi, Plwmp, Jangl a Deryn. A’i gan S4C mae’r hawlfraint llwyr?
Ateb 1
Mae’r ddogfen dendr yn nodi y ‘ bydd modd adeiladu ar frand, delweddau a chymeriadau Planed Plant Bach sydd yn eiddo i S4C’. Mae’r cymeriadau a restrir uchod yn eiddo i S4C
Cwestiwn 2
Oes gennych arweiniad o minimum a max duration o ddolenni ym mhob awr? A hefyd min-max y slot hanner awr.
Ateb 2
Mae’r ddogfen dendr yn nodi ‘Rhagwelwn, ar gyfartaledd, bydd angen tua 5 munud o ddolenni cyflwyno bob awr (er y gall hyn amrywio), wedi eu recordio o flaenllaw’. Yn naturiol bydd llai o amser i’w lenwi o fewn ac o gwmpas y slot hanner awr. Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi enghreifftiau o’r math o raglenni (a’u hyd) y gellir eu darlledu.
Cwestiwn 3
Yn ôl gwefan TAC yr unig gyferiad penodol at gyfradd WGGB ar gyfer Sgriptiau Cyn Ysgol ydi “Deialog Ł21 y funud gyda’r amlinelliad a’r fformat wedi’i ddarparu gan y Cynhyrchydd neu drydydd parti”. O ddilyn y fformiwla hwn os oes angen sgriptio100 munud yr wythnos yna mae’r cyfanswm dros Ł100,000 am flwyddyn. Ai dyma’r gyfradd berthnasol? Beth yw canllawiau S4C ar gyfer cyllidebu tendr y Dolenni Meithrin?
Ateb 3
Mae’r ddogfen dendr yn nodi fod S4c ‘yn chwilio am syniadau dyfeisgar, gwreiddiol ac amrywiol ar gyfer cyflwyno’r rhaglenni yn y ddarpariaeth estynedig’. Mae rhyddid i gwmniau unigol i gynnig eu syniadau am y ffordd orau o wireddu hyn. Mater i’r cwmni fydd penderfynu a oes angen y math o sgriptio a ddiffinir yng nghytundeb y WGGB. Mae’r ddogfen dendr yn gofyn i gwmniau gynnwys cost clirio’r dolenni i’w darlledu’n ddigyfyngiad ar wasanaethau S4C (gan gynnwys y we/bandllydan) ond os rhagwelir unrhyw gyfyngiadau fe ddylid nodi hynny yn glir yn y cais.
