Neidio at y cynnwys

S4C

Cysylltiadau

Rheoli Cynnwys

Ceisiadau am Glipiau

Cyffredinol

Mae archif S4C yn cynnwys deunydd o raglenni a gomisiynwyd gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol (yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg) ers lansio'r sianel yn Nhachwedd 1982. Yn ogystal â chynnwys deunydd yn ymwneud â Chymru (y gwlad, ei hiaith a'i phobl) mae'r casgliad hefyd yn adlewyrchu ystod o raglenni sydd â themâu a phynciau mwy cyffredinol sy'n apelio i gynulleidfa eang, o oedolion i blant meithrin.

Man cychwyn unrhyw ymholiad am glipiau yw'r Llyfrgell ac wedi sgwrs gyffredinol byddwn yn anfon e-bost / ffurflen i'w llenwi ar gyfer manylion llawn y cais. Bydd angen cadarnhau at ba bwrpas ac ym mha cyddestun y byddwch yn defnyddio'r clip ac ar ba fformat i dderbyn y deunydd.

Ceisiadau am glipiau i'w cynnwys mewn rhaglenni i'w darlledu ar S4C

Gall cwmnïau sy'n cynhyrchu rhaglenni i S4C ddefnyddio casgliad y Llyfrgell ar gyfer clipiau penodol neu luniau cyffredinol. Os ydych am ddefnyddio deunydd crai (rushes) dylid cysylltu â'r Llyfrgellydd, (02920 741211) neu Clip Cymru Cyf (01286) 677225 ar gyfer y tapiau wedi eu stori yn y Gogledd.

Cost: Rhaid talu'r costau trosglwyddo ac unrhyw ffioedd ag amlinellir yn y cytundeb.

Ceisiadau am glipiau gan ddarlledwyr ar wahân i S4C

S4C Rhyngwladol sydd yn trefnu pob trwydded ar gyfer clipiau sydd angen gan ddarlledwyr eraill (yn y D.U. neu ledled y byd) a'r Llyfrgell fydd yn delio â chanfod y deunydd.

Cost: Mae ffioedd ymchwil, trosglwyddo, trwyddedau a chostau clirio yn daladwy a dylid cysylltu yn uniongyrchol ag S4C Rhyngwladol am fanylion y costau a thrwyddedau.

Deunydd a Drosglwyddir

Mae S4C yn gallu ryddhau clipiau penodol e.e. artistiaid arbennig / actorion / golygfeydd / caneuon / perfformiadau a GV's. Fel rheol ni ellir rhyddhau copi llawn o raglen oni bai fod eu hangen fel Copi Wrth Gefn gan y cwmni cynhyrchu gwreiddiol neu wedi eu prynu i ddarlledu ar drwydded gan S4C Rhyngwladol.

Rhyddheir deunydd gan y Llyfrgell yn amodol ar delerau a chyfyngiadau'r cytundeb gwreiddiol ac yn achlysurol bydd rhaid trefnu trwyddedau ac ymgymryd â chlirio a thaliadau pellach. Cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu yw hyn ond lle'n ymarferol bosibl, fe fydd y Llyfrgell yn trosglwyddo unrhyw gyfarwyddiadau, cysylltiadau neu fanylion ar eu cyfer.

Gwsanaethau a Gynigir Gan y Llyfrgell

Copi Gwylio

Gellir darparu copi VHS gyda "timecode" y rhaglen wedi llosgi dros y llun a chodir tâl am wneud copïau gwylio.

Adnoddau Gwylio

Mae'n bosib dod i swyddfa'r Llyfrgell yng Nghaerdydd i wylio rhaglenni trwy drefniant. Dylid cysylltu ag aelod o staff y Llyfrgell i drefnu dyddiad ac amser sy'n gyfleus i bawb a'r deunydd sydd angen gwylio.

Formats

Gellir trosglwyddo deunydd i'r formats canlynol- Digi Beta, Beta SP, VHS, DV Cam a DAT. (Nid yw'n bosib trosglwyddo deunydd i fformat NTSC).

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales