Ffurflenni
Ffurflenni sy'n gysylltiedig a Chyfleu Rhaglenni
Os ydych yn defnyddio Apple Mac mae siawns na fyddwch yn gallu dadlwytho/agor rhai o'r ffurflenni hyn
Ffurflenni PAC
Mae ffurflenni pwrpasol (PAC, sy'n meddwl "Programme as Completed") yn darparu gwybodaeth hanfodol am bob rhaglen a gynhyrchir ar gyfer S4C, ac mae'n rhaid eu llewni ar gyfer pob cynhyrchiad.
Mae S4C ar hyn o bryd yn datblygu system newydd ar gyfer y ffurflenni 'PAC', a fydd yn gofyn i'r cwmn�au cynhyrchu rhoi'r wybodaeth am y rhaglenni i fewn ar-lein: cadwch olwg am ddatganiadau ar y wefan. Yn y cyfamser, dyma'r ffurflenni a fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni'r gwaith angenrheidiol.
Canllawiau Defnyddiwr Ffurflenni PAC
I'ch cynorthwyo i lenwi'r ffurflenni PAC amrywiol
Eglurhad Cyflym i'r Ffuflen Cyfleu Rhaglen
Cyfarwyddiadau plaen am y ffordd orau i lenwi'r ffurflen PAC-a
CYFARWYDDIADAU CYFLYM I DDEFNYDDIO'R DOGFENNI ISOD:
Mae pob un o'r dogfennau hyn yn dod fel templedi ar gyfer Microsoft Word. Y syniad gorau yw i'w harbed fel templedi yn y ffolder 'Templates' ar eich disg caled, ac yna ddefnyddio'r rhein i greu dogfennau newydd.
Os ydych yn defnyddio Internet Explorer ar PC Windows, dylech:
- clicio gyda'r botwm dde dros enw'r ffurflen perthnasol
- dewis "save target as"
- arbed y ffeil yn y ffurf .dot yn y ffolder 'Templates' ar eich disg caled
Gallwch wedyn ddewis y templedi hyn i greu dogfennau newydd o fewn Microsoft Word, a fydd yn barod i chi roi manylion y rhaglenni i fewn iddynt. Gan fod y templedi yn cynnwys "macros", mae'n rhaid i chi glicio ar "enable macros" er mwyn gallu defnyddio'r gweithrediadau sydd ynddynt.
Ffurflen cyfleu rhaglen (PAC-a)
Dyma'r ffurflen sy'n gorfod cael ei lenwi pan yn cyfleu'r t�p i S4C. Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer darlledu, ac hefyd y wybodaeth ar gyfer adrannau hysbysebu, marchnata, cyflwyno ac is-deitlo
- Ffurflen Gyfraniadau (PAC-b)
- Mae'r ffurflen hon yn cynnwys gwybodaeth ar sgriptwyr; cyfarwyddwyr; cyfranwyr a deunydd trydydd parti
- Ffurflen Gyfraniadau (PAC-b1)
- Ar gyfer gwybodaeth talu artistiaid a chytundebau Equity yn unig - i'w llenwi ar gyfer rhaglenni unigol neu ar �l y bennod olaf yn y gyfres
- Taflen Cerddoriaeth
- Gwybodaeth am y gerddoriaeth a ddefnyddiwyd - 'music cue sheets'
- Ffurflen logio deunydd crai (PAC-c)
- Taflen ar gyfer cofnodi deunydd crai
