Y Gwasanaeth Rhaglenni
Ffurflen cyfleu syniad newydd
Croeso i’r adnodd ar gyfer cynnig syniadau newydd i S4C. Mae gan unrhyw gynhyrchydd, gwmni neu unigolyn yr hawl i gynnig syniad i S4C. Nid yw S4C yn dymuno gweithredu marchnad gaeëdig na chwaith weithredu polisi o gyflenwyr dethol (“preferred suppliers”).
Fe fydd comisiynwyr yn ymateb i gynigion o fewn 4 wythnos. Mae S4C yn cydnabod ei bod yn werthfawr i gyflenwyr gael atebion negyddol prydlon ond er mwyn osgoi oedi nid yw’n ymrwymo i egluro’r rhesymau o fewn yr un cyfnod.
Dyma esiampl.
Cwblhewch y manylion canlynol o.g.y.dd.
