Cynhyrchu dolenni cyflwyno darpariaeth estynedig plant meithrin S4C

01-Ebr-2008

Mae menter ar y cyd rhwng Cwmni Da a Dinamo wedi ennill cytundeb mewn cystadleuaeth agored i gynhyrchu dolenni cyflwyno darpariaeth estynedig plant meithrin S4C.

Bydd y cytundeb dwy flynedd o hyd (gyda’r opsiwn o flwyddyn ychwanegol) yn dod i rym y mis hwn.

Cyflwynir y ddarpariaeth estynedig newydd ar 23 Mehefin 2008.