Cyflwyniad

Pwrpas y safle hwn yw cynnig ffordd hwylus o roi gwybodaeth i'r sector sy'n cynhyrchu rhaglenni i S4C am unrhywbeth allai fod o help iddyn nhw yn y broses o gynhyrchu.

Mae yma wybodaeth am gynlluniau ac anghenion tymor byr a thymor canol ynghyd â pholisïau a chanllawiau perthnasol.

Byddwn yn croesawu eich ymateb ynglyn â defnyddioldeb a gwerth y safle, ynghyd ag awgrymiadau ynglyn â sut y gellir ei wneud yn arf mwy defnyddiol fyth.

Cynhyrchu dolenni cyflwyno darpariaeth estynedig plant meithrin S4C

Mae menter ar y cyd rhwng Cwmni Da a Dinamo wedi ennill cytundeb mewn cystadleuaeth agored i gynhyrchu dolenni cyflwyno darpariaeth estynedig plant meithrin S4C.

Bydd y cytundeb dwy flynedd o hyd (gyda'r opsiwn o flwyddyn ychwanegol) yn dod i rym y mis hwn.

Cyflwynir y ddarpariaeth estynedig newydd ar 23 Mehefin 2008.