Gwahoddiad i Dendr - Pencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan 20 yr IRB
11-Ebr-2008
Mae S4C, mewn partneriaeth gyda’r BBC, mewn trafodaethau i sicrhau hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20oed yr IRB, a gynhelir yng Nghymru yn ystod mis Mehefin 2008.
Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar y 6ed o Fehefin 2008, a darlledir y gemau byw o Barc yr Arfau Caerdydd, Rodney Parade Casnewydd a Stadiwm Liberty Abertawe. Bwriedir darlledu 11 gêm fyw yn ogystal â rhaglenni uchafbwyntiau.
Fe fydd y ddogfen dendr yn cael ei chyhoeddi ar wefannau S4C a’r BBC ar y 17eg o Ebrill 2008. Oherwydd yr amserlen dynn, fe fydd y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau ar yr 1af o Fai 2008 a bwriedir cynnal y cyfweliadau yng Nhaerdydd ar y 6ed o Fai 2008.
Noder fod y tendr yma yn ddibynnol ar i S4C a’r BBC arwyddo’r cytundeb hawliau.
