Neidio at y cynnwys

S4C

Cysylltiadau

Cyfarwyddiaeth Cyfathrebu

Uned y Wasg

Mae gwaith y Wasg S4C, yn fras, wedi’u rhannu yn dair rhan: hyrwyddo rhaglenni, hyrwyddo brand corfforaethol y sianel a hyrwyddo rôl S4C Rhyngwladol.

Rhaglenni

Yn wythnosol, mae Uned y Wasg yn paratoi pecyn gwybodaeth rhaglenni sy’n cynnwys 4-5 erthygl am raglenni Cymraeg S4C, ynghyd ag amserlenni S4C ac S4C Digidol. Fe anfonir y pecyn at y wasg a’r cyfryngau ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r Uned hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â gwahanol bapurau gan ‘werthu’ straeon newyddion am raglenni a sêr y sianel. Mae’r Uned hefyd yn gyfrifol am ddarparu deunydd ar gyfer y system EPG a pharatoi copi ar gyfer ‘Pick of the Day’ gwahanol bapurau. Mae Uned y Wasg yn cydweithio’n agos â’r Uned Farchnata i baratoi hysbysebion a deunydd hyrwyddo arall.

Corfforaethol

Mae'r Wasg yn gyfrifol am hyrwyddo straeon corfforaethol S4C e.e. digwyddiadau, gwobrau, nawdd, cystadleuthau ayb. Mae Uned y Wasg hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi penodiadau newydd a chynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol. Mae Gwifren Gwylwyr S4C yn dod o dan ambarél swyddfa'r Wasg hefyd. Mae’r Wifren wedi ei lleoli ym Mhorthmadog ac mae’n ymdrin ag ymholiadau o’r cyhoedd yn ddyddiol.

S4C Rhyngwladol

Mae’r wasg yn gyfrifol am hybu rôl S4C Rhyngwladol i’r wasg trwy baratoi datganiadau am werthiant rhaglenni, cyd-gynyrchiadau newydd a nawdd rhaglenni.

  • Hannah Thomas
  • Manager
  • y-wa// Hide from spam bots //sg-sc@s4c.co.uk

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales