Cysylltiadau
Cyfarwyddiaeth Dosbarthu a Darlledu
Mae'r gyfarwyddiaeth hon yn gyfrifol am bob agwedd sicrhau gweithrediad esmwyth yr offer a’r systemau mae S4C yn eu defnyddio i ddarlledu rhaglenni’r sianel.
Mae'r gyfarwyddiaeth yn ymgorffori'r holl waith mewn cysylltiad â Rheoli Cynnwys (llyfrgell), Gwasanaethau Adeilad (TG ac adeilad) a gwasanaethau darledu (MCR a darlledu).
Rydym yn gweithio ar y cyd â nifer o adrannau eraill, er enghraifft Cyflwyno, Marchnata, Planed Plant ac S4C Masnachol.
Rydym ar gael i gynnig cymorth a chyngor ynglyn â phob agwedd o dechnoleg teledu a darlledu, boed trwy ein dogfen Gofynion Technegol ar gyfer Rhaglenni a Ddarperir i S4C neu drwy holi staff yr adran.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu eisiau unrhyw wybodaeth bellach am gyfarwyddiaeth, neu os oes gennych ymholiad technegol neu weithredol, yna cysylltwch â:
- Angharad Williams
- 02920 741200
- tec// hide from spam bots //hnegol-sc@s4c.co.uk
Cwestiynau
Cwestiynau Technegol
- Beth ddylem ni ei roi i S4C?
- Beth yw dogfennau addas?
- Allwn ni osod logo dros y lluniau?
- Sawl trac sain sydd ei angen?
- Beth yw'r lefelau sain derbyniol?
- Beth yw'r trefniadau ar gyfer rhaglenni byw?
- Beth yw'r trefniadau os yw fy rhaglen yn un amserol a bod angen ei chyfleu ar y diwrnod darlledu?
- Allwch chi roi cyngor i mi ar ddelweddau sy'n fflachio yn fy rhaglen?
- Sut mae S4C yn ymdrin rhaglenni sgrn lydan?
- Wrth gynhyrchu animeiddiadau ar gyfrifiadur, pa gymhareb agwedd a sip picsel ddylwn i eu defnyddio?
Beth ddylem ni ei roi i S4C?
Prif Dp ar fformat Betacam Digidol. Rhaid darparu dogfennau addas gyda phob tp sy'n cael ei gyfleu i'w ddarlledu.
Oni chytunir yn wahanol:
2 x copi VHS o'r prif dp gyda sain Hi Fi, un gyda chd amser wedi ei losgi arno sy'n cyd-fynd 'r un ar y prif dp, ac un heb gd amser. Bydd uned gomisiynu yn defnyddio'r rhain i adolygu'r rhaglen, a'r uned farchnata yn eu defnyddio i ddethol eitemau hyrwyddo a thrls.
Os yw'r rhaglen yn mynd i gael ei hisdeitlo gyda chapsiynau caedig nad ydynt eisoes wedi eu codio ar linell 335, un S-VHS a sgript yn unl 'r adran ar isdeitlau.
Dylai'r Cwmni Cynhyrchu gadw copi wrth gefn o'r prif dp. Dylid darparu Recordiad o'r Darllediad (R.O.T.) o raglenni byw (neu'r rheini a ddarlledir fel rhai byw) i S4C.
Beth yw dogfennau addas?
Rhaid cyflwyno adroddiad recordio gyda phob recordiad, gan roi'r manylion canlynol:
- Enw'r Cwmni Cynhyrchu a'r cwmni adnoddau sy'n darparu'r prif dp.
- Teitl y rhaglen a theitl y bennod/is-bennod a'r rhif cynhyrchu.
- Safon y fideo a'r lliw a ddefnyddiwyd.
- Mono/Stereo, defnydd o draciau sain, sain amgylchynol Dolby.
- Fformat y Llun:
- 4:3 Sgrn Lawn
- 16:9 Uchder Llawn Anamorffig (wedi'i saethu a'i ddiogelu ar gyfer 14:9)
- Hyd pob rhan a chofnod o'r cd amser ar gyfer dechrau pob rhan.
- Cadarnhad a oes isdeitlau yn bresennol ar linell 335 neu fel capsiynau agored.
- Cadarnhad bod y tp wedi cael sl bendith y cyflenwr i'w ddarlledu.
Rhaid nodi eitemau 2 a 5 ar gasyn y cast ei hun.
Allwn ni osod logo dros y lluniau?
Mae pob rhaglen a gomisiynir gan S4C bellach yn cael eu darlledu ar ein gwasanaethau digidol. Gan fod logo S4C yn cael ei ddefnyddio yng nghornel chwith uchaf y sgrn ar y gwasanaethau hyn, rhaid i'r gornel honno fod yn rhydd o gapsiynau, logos neu unrhyw ddelweddau graffig eraill a allai amharu ar logo S4C.
Sawl trac sain sydd ei angen?
Rhaid darparu rhaglenni gyda sain stereo, oni bai fod hyn yn amymarferol.
Dylid recordio signalau stereo fel a ganlyn:
- Trac 1 - Sianel Chwith.
- Trac 2 - Sianel Dde.
- Rhaid recordio trac 1 a thrac 2 i gydweddu yn union 'i gilydd drwy gydol y rhaglen, gan gynnwys y signalau gwirio ar ddechrau'r tp.
- Rhaid i draciau 3 a 4 fod yn union yr un fath thraciau 1 a 2 oni nodir yn wahanol gan S4C.
Dylid recordio signalau mono fel a ganlyn:
- Trac 1 - cymysgedd mono.
- Trac 2 - rhaid iddo fod yn union yr un fath Thrac 1.
- (A elwir yn MONO SIANEL DDEUOL).
- Rhaid recordio trac 1 a thrac 2 i gydweddu yn union 'i gilydd drwy gydol y rhaglen, gan gynnwys y signalau gwirio ar ddechrau'r tp.
- Rhaid i draciau 3 a 4 fod yn union yr un fath thraciau 1 a 2 oni nodir yn wahanol gan S4C.
Rhaid i ddogfennau nodi'n glir ai sain stereo neu mono sianel ddeuol sydd ar y rhaglen.
Rhaid i raglenni sy'n cael eu cyfleu dros linell, yn hytrach na thp fideo, gydymffurfio 'r ffurfweddau sianel uchod.
Dwy Iaith:
Rhaid i raglenni sy'n cael eu cyfleu sain mewn dwy iaith gydymffurfio 'r manylebau uchod, gyda:
- Sain y rhaglen Gymraeg ar Draciau 1 a 2.
- Sain y rhaglen Saesneg ar Draciau 3 a 4.
Llun-ddisgrifio:
Rhaid i raglenni sy'n cael eu cyfleu Llun-ddisgrifiad gydymffurfio 'r manylebau uchod, gyda:
- Sain y rhaglen Gymraeg ar Draciau 1 a 2.
- Y llun-ddisgrifiad ar Drac 3.
- Lefel llais arferol (gan gyrraedd uchafbwynt o PPM 5)
- Signal rheoli Pan and Fade ar Drac 4.
- Minws 12db o'i gymharu lefel line-up (gan gyrraedd uchafbwynt o PPM 1)
Beth yw'r lefelau sain derbyniol?
Rhaid rheoli ffynhonnell y sain i sicrhau nad yw lefel uchaf y sain fwy na 8dB, (PPM 6) yn uwch na'r lefel line-up.
| Deunydd | Uchafbwyntiau Arferol | Ystod Lawn |
| Iaith Lafar: | ||
| Sgyrsiau, Newyddion, Rhaglenni Dogfen, Drama. Trafodaethau, Gemau Panel, Rhaglenni Cwis, Cyhoeddiadau. | 5 | 1-6 |
| Cerddoriaeth: | ||
| Amrywiaeth, Cerddoriaeth Ddawns. | 4 ½ | 2-6 |
| Bandiau Pres, Bandiau Milwrol. | 4 | 2-5 |
| Cyngherddau Cerddorfaol. | - | 1-6 |
| Cerddoriaeth Ysgafn. | 5 ½ | 2-6 |
| Cerddoriaeth 'Pop'. | 5 | 2-5 |
| Rhaglenni sy'n cynnwys llawer o gywasgedd. | 4 | 2-4 |
Os defnyddir cywasgedd sain, dylid ei gyfyngu i gywasgedd o 6dB ac ni ddylai'r cywasgedd ddechrau yn is na PPM 4.
Beth yw'r trefniadau ar gyfer rhaglenni byw?
Mae cyflenwr y rhaglen yn gyfrifol am drefnu'r cysylltiadau ansawdd darlledu angenrheidiol i drosglwyddo'r signal o leoliad y darllediad allanol i S4C, oni chytunir yn glir fel arall.
Dylid hysbysu'r Pennaeth Gwasanaethau Darlledu am y trefniadau cyffredinol (a'u cadarnhau ar bapur) ar ddechrau'r broses gynllunio. Dylai'r manylion hyn gynnwys y trefniadau cyfathrebu, y lleoliad a chadarnhau'r wybodaeth am archebu llinellau.
Ar gyfer digwyddiadau byw arbennig, bydd angen i'r Cynhyrchydd a/neu'r Goruchwylydd Technegol fynychu cyfarfod cynhyrchu technegol yn S4C i drafod manylion gyda'r undau Darlledu a Chyflwyno ac unrhyw barti perthnasol arall.
Rhaid i chi gadarnhau unrhyw ddiwygiadau i'r manylion gwreiddiol, amserlen y broses ymarfer/profi a chadarnhau enw(au) cyswllt a rhifau ffn i Lyfrgellydd S4C (rhif ffn 029 20 741209)o leiaf 24 awr o flaen llaw(neu erbyn 16:30 ar brynhawn dydd Gwener os yw'r rhaglen yn cael ei darlledu dros y penwythnos). Bydd gofyn i chi gadarnhau amcan bras o hyd y rhaglen. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r Pennaeth Gwasanaethau Darlledu y tîm Gyflwyno a'r Brif Ystafell Reoli (PYR) (Rheolwyr Cyflwyno (PCs) a Pheirianneg).
Mae disgwyl i'r Cynhyrchydd gysylltu a y tîm Gyflwyno S4C o leiaf 3 awr cyn darlledu, i sefydlu llinell gyfathrebu a thrafod unrhyw newidiadau munud olaf (Adran Gyflwyno 029 20 741265 yn ystod oriau swyddfa neu 029 20 741230 ar adegau eraill). Yn yr un modd, dylid sefydlu cysylltiad rhwng cyfarwyddwr y rhaglen ar y safle a Phrif Ystafell Reoli S4C (Peirianneg).
Bydd S4C yn darlledu rhaglen wrth gefn os nad yw'r Cynhyrchydd yn ufuddhau i'r canllawiau uchod.
Yn unol 'r Cytundeb Comisiynu, mae S4C yn disgwyl i gopi Betacam Digidol o'r rhaglenni a ddarlledir i lawr y llinell, ynghyd dau gopi VHS (un gyda chd amser ac un hebddo) gael eu cyfleu i lyfrgell S4C o fewn pythefnos o ddarlledu'r rhaglen neu fel a nodwyd yn y Cytundeb.
Mae cerdyn cyswllt ar gael i atgoffa Cynhyrchwyr o rifau ffn cyswllt S4C.
Gellir cael cardiau gan Mair ar 029 20741479 neu Elen ar 029 20741265
Oriau gwaith swyddfa: 09:00---17:15
- Llyfrgellydd S4C:
- 029 20 741209
- Cyflwyno:
- 029 20 741265
- Ffacs 029 20 741259
Y tu allan i oriau swyddfa:
- PYR (P.Cs):
- 029 20 741230
- PYR (Peirianneg):
- 029 20 741240
- Ffacs 029 20 741375
Sefydlogrwydd Signal / Line-up:
Rhaid bod yr adnoddau ar y safle yn gallu cynhyrchu signalau line-up sain a fideo. Dylai'r rhain fod wedi eu cyfansoddi o fariau lliw 100% (75% os yw'r signal llun yn mynd i gael ei gysylltu trwy loeren) ynghyd thn gyfeirio lefel sero. Ar gyfer cynnyrch stereo, dylai'r tn sianel llaw chwith fod yn ysbeidiol. Bydd hefyd angen pwls a bar fideo, fel signal prawf wedi'i fewnosod sydd orau, i gyfartalu'r cylched.
Rhaid bod signalau line-up ar gael o leiaf 30 munud cyn dechrau'r rhaglen a rhaid penodi peiriannydd i gysylltu PYR S4C.
Rhaid i'r signal fideo fod yn sefydlog ac yn barhaus drwy gydol y darllediad.
Beth yw'r trefniadau os yw fy rhaglen yn un amserol a bod angen ei chyfleu ar y diwrnod darlledu?
Mae'r Cytundeb Comisiynu yn nodi amser penodol ar gyfer cyfleu tapiau a ddarlledir ar yr un diwrnod.
Dylid cadarnhau lleoliad y cwmni golygu/adnoddau, enw cyswllt (cynhyrchydd neu gyfarwyddwr) a rhif(au) cyswllt i'r Llyfrgellydd yn S4C (rhif ffn 029 20 741209) o leiaf 24 awr o flaen llaw (neu erbyn 16:30 brynhawn dydd Gwener os yw'r rhaglen yn cael ei chyfleu/darlledu yn ystod y penwythnos). Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r Pennaeth Gwasanaethau Darlledu, y Uned Gyflwyno a'r PYR (PCs a Pheirianneg).
Ar l gorffen y gwaith golygu, dylai'r Cynhyrchydd gysylltu ag Uned Gyflwyno S4C i gadarnhau hyd a chynnwys y rhaglen (029 20 741265 yn ystod oriau swyddfa S4C neu Reolwyr Cyflwyno y PYR (PCs) 029 20 741230 ar adegau eraill).
Os nad yw'r Cynhyrchydd yn gallu bodloni'r amodau cyfleu ar y diwrnod, yna ei gyfrifoldeb ef/ei chyfrifoldeb hi yw cysylltu Llyfrgellydd S4C yn ystod oriau swyddfa rhif ffn 029 20 741209 (neu PCs - PYR ar 029 20 741230 ar adegau eraill), i egluro'r amgylchiadau. Pan fo'n briodol, bydd S4C yn cytuno i newid yr amser a'r trefniadau cyfleu.
Bydd S4C yn darlledu rhaglen wrth gefn os nad oes cysylltiad llwyddiannus a/neu os nad yw'r tp wedi cyrraedd ar yr amser a nodir yn y Cytundeb Comisiynu.
Yn unol 'r Cytundeb Comisiynu, bydd S4C yn disgwyl i'r Llyfrgell dderbyn dau gopi VHS o'r rhaglen (un gyda chd amser ac un hebddo) o fewn pythefnos o'r dyddiad darlledu neu fel a nodir yn y Cytundeb.
Allwch chi roi cyngor i mi ar ddelweddau sy'n fflachio yn fy rhaglen?
Sut mae S4C yn ymdrin rhaglenni sgrn lydan?
Mae gan S4C ddau amgylchedd darlledu, Analog a Digidol.
Ar gyfer ein gwasanaethau Digidol, caiff rhaglenni sgrn lydan eu darlledu fel rhai sgrn lydan. Bydd gwylwyr theledu sgrn lydan yn gweld y llun llawn; bydd y rheini setiau 4:3 cyffredin yn gweld darn canol y llun sgrn lydan. Mae'r effaith yn dibynnu ar y blwch pen set y mae'r gwyliwr yn ei ddefnyddio i dderbyn ei signal digidol.
Felly, wrth saethu a rhoi capsiynau ar raglenni sgrn lydan sydd i'w darlledu'n Ddigidol, rhaid cofio mai dim ond canol y llun y bydd rhai gwylwyr yn gallu ei weld.
Ar ein gwasanaeth analog, rydym yn darlledu rhaglenni sgrn lydan ar ffurf blwch post 14:9. Mae hyn yn rhoi stribedi cul du ar dop a gwaelod y llun ac yn colli ychydig bach o ymylon y ffrm, tua 6%. Eto, rhaid ystyried hyn wrth saethu a rhoi capsiynau ar raglenni sgrn lydan. Dylai hyn esbonio'r rheswm dros y cais am 'saethu a diogelu 14:9' ar gomisiynau 16:9.
Yn olaf, cofiwch y dylid darparu rhaglenni sgrn lydan i S4C yn eu ffurf Uchder Llawn Anamorffig ac nad yw S4C yn derbyn rhaglenni a ddarperir mewn unrhyw ffurf o'r fformat Blwch Post.
Wrth gynhyrchu animeiddiadau ar gyfrifiadur, pa gymhareb agwedd a sip picsel ddylwn i eu defnyddio?
Dylid dewis cymhareb picsel Canfas yn newislen y rhaglen (e.e. PhotoShop) fel bod y gymhareb lorweddol i fertigol yn 16x9 ar gyfer Sgrn Lydan a 4x3 ar gyfer sgrn safonol. Mae rhywfaint o gymhlethdod oherwydd bod picseli cyfrifiadur yn sgwr a phicseli teledu braidd yn hirsgwr, neu 1.0667 gwaith mor lydan i fod yn fanwl gywir.
Felly er bod llun teledu yn 720 o led wrth 576 o uchder, os dewisir y gymhareb hon yn y pecyn cyfrifiadurol ar gyfer y canfas yna bydd cylch perffaith sydd wedi ei greu ar y cyfrifiadur, o'i wylio ar y teledu, yn edrych fel petai wedi cael ei ymestyn (sip wy). Mae'n hawdd datrys hyn o ddewis y cymarebau canlynol:
- a) Ar gyfer deunydd sydd i'w ddangos ar deledu ar fformat Sgrn Lydan 16x9 1024 ar draws x 576 i fyny.
- b) Ar gyfer deunydd sydd i'w ddangos ar deledu ar fformat 4x3, 768 ar draws x 576 i fyny.
Mae'r cymarebau hyn fel arfer ar ddewislen y rhan fwyaf o becynnau graffeg cyfrifiadurol poblogaidd. Os oes unrhyw amheuaeth, dylid, yn l y drefn arferol, greu darn prawf byr a'i gyflwyno i Gyfarwyddiaeth Dosbarthu a Darlledu S4C i'w wirio cyn dechrau'r prif brosiect.
