Darlledu Uchafbwyntiau Taith Cymru i Dde Affrica

16-Ebr-2008

Mae cwmni Sunset + Vine Cymru a Sports Media Services wedi ennill mewn cystadleuaeth agored tendr i gynhyrchu darpariaeth S4C o daith tîm rygbi Cymru i Dde Affrica.

Bydd y cwmni yn cynhyrchu dwy raglen awr o hyd, fydd yn dangos uchafbwyntiau holl gyffro’r ddwy gêm brawf rhwng pencampwyr y byd, De Affrica ac enillwyr y Chwe Gwlad, Cymru.

Bydd y rhaglenni, sy’n ddarllediadau ecsgliwsif ar deledu daearol, yn cael eu dangos ar 7 ac 14 Mehefin, oriau yn unig ar ôl y chwiban olaf.

Bydd y rhaglenni hefyd yn cynnwys golwg y tu ôl i’r llenni ar holl baratoadau carfan Cymru yn Ne Affrica.