Cysylltiadau
Adran Gweithredoedd Technegol a Pheirianneg
Yr adran hon sy’n gyfrifol am sicrhau gweithrediad esmwyth yr offer a’r systemau mae S4C yn eu defnyddio i ddarlledu rhaglenni’r sianel.
Yn ychwanegol mae’r adran yn gyfrifol am weithredu’r adnoddau Golygu, Graffeg a Stiwdio, sy’n hanfodol i rediad cynnyrch y sianel.
Rydym yn gweithio ar y cyd â nifer o adrannau eraill, er enghraifft Cyflwyno, Marchnata, Planed Plant ac S4C Masnachol.
Rydym ar gael i gynnig cymorth a chyngor ynglyn â phob agwedd o dechnoleg teledu a darlledu, boed trwy ein dogfen Gofynion Technegol ar gyfer Rhaglenni a Ddarperir i S4C neu drwy holi staff yr adran.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu eisiau unrhyw wybodaeth bellach am yr adran, neu os oes gennych ymholiad technegol neu weithredol, yna cysylltwch â:
- Angharad Williams 02920 741200
- tec// hide from spam bots //hnegol-sc@s4c.co.uk
Cwestiynau
Cwestiynau Technegol
- Beth ddylem ni ei roi i S4C?
- Beth yw dogfennau addas?
- Allwn ni osod logo dros y lluniau?
- Sawl trac sain sydd ei angen?
- Beth yw'r lefelau sain derbyniol?
- Beth yw'r trefniadau ar gyfer rhaglenni byw?
- Beth yw'r trefniadau os yw fy rhaglen yn un amserol a bod angen ei chyfleu ar y diwrnod darlledu?
- Allwch chi roi cyngor i mi ar ddelweddau sy'n fflachio yn fy rhaglen?
- Sut mae S4C yn ymdrin rhaglenni sgrn lydan?
- Wrth gynhyrchu animeiddiadau ar gyfrifiadur, pa gymhareb agwedd a sip picsel ddylwn i eu defnyddio?
Beth ddylem ni ei roi i S4C?
Prif Dp ar fformat Betacam Digidol. Rhaid darparu dogfennau addas gyda phob tp sy'n cael ei gyfleu i'w ddarlledu.
Oni chytunir yn wahanol:
2 x copi VHS o'r prif dp gyda sain Hi Fi, un gyda chd amser wedi ei losgi arno sy'n cyd-fynd 'r un ar y prif dp, ac un heb gd amser. Bydd yr adran gomisiynu yn defnyddio'r rhain i adolygu'r rhaglen, a'r adran farchnata yn eu defnyddio i ddethol eitemau hyrwyddo a thrls.
Os yw'r rhaglen yn mynd i gael ei hisdeitlo gyda chapsiynau caedig nad ydynt eisoes wedi eu codio ar linell 335, un S-VHS a sgript yn unl 'r adran ar isdeitlau.
Dylai'r Cwmni Cynhyrchu gadw copi wrth gefn o'r prif dp. Dylid darparu Recordiad o'r Darllediad (R.O.T.) o raglenni byw (neu'r rheini a ddarlledir fel rhai byw) i S4C.
Beth yw dogfennau addas?
Rhaid cyflwyno adroddiad recordio gyda phob recordiad, gan roi'r manylion canlynol:
- Enw'r Cwmni Cynhyrchu a'r cwmni adnoddau sy'n darparu'r prif dp.
- Teitl y rhaglen a theitl y bennod/is-bennod a'r rhif cynhyrchu.
- Safon y fideo a'r lliw a ddefnyddiwyd.
- Mono/Stereo, defnydd o draciau sain, sain amgylchynol Dolby.
- Fformat y Llun:
- 4:3 Sgrn Lawn
- 16:9 Uchder Llawn Anamorffig (wedi'i saethu a'i ddiogelu ar gyfer 14:9)
- Hyd pob rhan a chofnod o'r cd amser ar gyfer dechrau pob rhan.
- Cadarnhad a oes isdeitlau yn bresennol ar linell 335 neu fel capsiynau agored.
- Cadarnhad bod y tp wedi cael sl bendith y cyflenwr i'w ddarlledu.
Rhaid nodi eitemau 2 a 5 ar gasyn y cast ei hun.
Allwn ni osod logo dros y lluniau?
Mae pob rhaglen a gomisiynir gan S4C bellach yn cael eu darlledu ar ein gwasanaethau digidol. Gan fod logo S4C yn cael ei ddefnyddio yng nghornel chwith uchaf y sgrn ar y gwasanaethau hyn, rhaid i'r gornel honno fod yn rhydd o gapsiynau, logos neu unrhyw ddelweddau graffig eraill a allai amharu ar logo S4C.
Sawl trac sain sydd ei angen?
Rhaid darparu rhaglenni gyda sain stereo, oni bai fod hyn yn amymarferol.
Dylid recordio signalau stereo fel a ganlyn:
- Trac 1 - Sianel Chwith.
- Trac 2 - Sianel Dde.
- Rhaid recordio trac 1 a thrac 2 i gydweddu yn union 'i gilydd drwy gydol y rhaglen, gan gynnwys y signalau gwirio ar ddechrau'r tp.
- Rhaid i draciau 3 a 4 fod yn union yr un fath thraciau 1 a 2 oni nodir yn wahanol gan S4C.
Dylid recordio signalau mono fel a ganlyn:
- Trac 1 - cymysgedd mono.
- Trac 2 - rhaid iddo fod yn union yr un fath Thrac 1.
- (A elwir yn MONO SIANEL DDEUOL).
- Rhaid recordio trac 1 a thrac 2 i gydweddu yn union 'i gilydd drwy gydol y rhaglen, gan gynnwys y signalau gwirio ar ddechrau'r tp.
- Rhaid i draciau 3 a 4 fod yn union yr un fath thraciau 1 a 2 oni nodir yn wahanol gan S4C.
Rhaid i ddogfennau nodi'n glir ai sain stereo neu mono sianel ddeuol sydd ar y rhaglen.
Rhaid i raglenni sy'n cael eu cyfleu dros linell, yn hytrach na thp fideo, gydymffurfio 'r ffurfweddau sianel uchod.
Dwy Iaith:
Rhaid i raglenni sy'n cael eu cyfleu sain mewn dwy iaith gydymffurfio 'r manylebau uchod, gyda:
- Sain y rhaglen Gymraeg ar Draciau 1 a 2.
- Sain y rhaglen Saesneg ar Draciau 3 a 4.
Llun-ddisgrifio:
Rhaid i raglenni sy'n cael eu cyfleu Llun-ddisgrifiad gydymffurfio 'r manylebau uchod, gyda:
- Sain y rhaglen Gymraeg ar Draciau 1 a 2.
- Y llun-ddisgrifiad ar Drac 3.
- Lefel llais arferol (gan gyrraedd uchafbwynt o PPM 5)
- Signal rheoli Pan and Fade ar Drac 4.
- Minws 12db o'i gymharu lefel line-up (gan gyrraedd uchafbwynt o PPM 1)
Beth yw'r lefelau sain derbyniol?
Rhaid rheoli ffynhonnell y sain i sicrhau nad yw lefel uchaf y sain fwy na 8dB, (PPM 6) yn uwch na'r lefel line-up.
| Deunydd | Uchafbwyntiau Arferol | Ystod Lawn |
| Iaith Lafar: | ||
| Sgyrsiau, Newyddion, Rhaglenni Dogfen, Drama. Trafodaethau, Gemau Panel, Rhaglenni Cwis, Cyhoeddiadau. | 5 | 1-6 |
| Cerddoriaeth: | ||
| Amrywiaeth, Cerddoriaeth Ddawns. | 4 ½ | 2-6 |
| Bandiau Pres, Bandiau Milwrol. | 4 | 2-5 |
| Cyngherddau Cerddorfaol. | - | 1-6 |
| Cerddoriaeth Ysgafn. | 5 ½ | 2-6 |
| Cerddoriaeth 'Pop'. | 5 | 2-5 |
| Rhaglenni sy'n cynnwys llawer o gywasgedd. | 4 | 2-4 |
Os defnyddir cywasgedd sain, dylid ei gyfyngu i gywasgedd o 6dB ac ni ddylai'r cywasgedd ddechrau yn is na PPM 4.
Beth yw'r trefniadau ar gyfer rhaglenni byw?
Mae cyflenwr y rhaglen yn gyfrifol am drefnu'r cysylltiadau ansawdd darlledu angenrheidiol i drosglwyddo'r signal o leoliad y darllediad allanol i S4C, oni chytunir yn glir fel arall.
Dylid hysbysu'r Pennaeth Gweithredoedd Technegol am y trefniadau cyffredinol (a'u cadarnhau ar bapur) ar ddechrau'r broses gynllunio. Dylai'r manylion hyn gynnwys y trefniadau cyfathrebu, y lleoliad a chadarnhau'r wybodaeth am archebu llinellau.
Ar gyfer digwyddiadau byw arbennig, bydd angen i'r Cynhyrchydd a/neu'r Goruchwylydd Technegol fynychu cyfarfod cynhyrchu technegol yn S4C i drafod manylion gyda'r adrannau Peirianneg a Chyflwyno ac unrhyw barti perthnasol arall.
Rhaid i chi gadarnhau unrhyw ddiwygiadau i'r manylion gwreiddiol, amserlen y broses ymarfer/profi a chadarnhau enw(au) cyswllt a rhifau ffn i Lyfrgellydd S4C (rhif ffn 029 20 741209)o leiaf 24 awr o flaen llaw(neu erbyn 16:30 ar brynhawn dydd Gwener os yw'r rhaglen yn cael ei darlledu dros y penwythnos). Bydd gofyn i chi gadarnhau amcan bras o hyd y rhaglen. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r Pennaeth Gweithredoedd Technegol, yr Adran Gyflwyno a'r Brif Ystafell Reoli (PYR) (Rheolwyr Cyflwyno (PCs) a Pheirianneg).
Mae disgwyl i'r Cynhyrchydd gysylltu ag Adran Gyflwyno S4C o leiaf 3 awr cyn darlledu, i sefydlu llinell gyfathrebu a thrafod unrhyw newidiadau munud olaf (Adran Gyflwyno 029 20 741265 yn ystod oriau swyddfa neu 029 20 741230 ar adegau eraill). Yn yr un modd, dylid sefydlu cysylltiad rhwng cyfarwyddwr y rhaglen ar y safle a Phrif Ystafell Reoli S4C (Peirianneg).
Bydd S4C yn darlledu rhaglen wrth gefn os nad yw'r Cynhyrchydd yn ufuddhau i'r canllawiau uchod.
Yn unol 'r Cytundeb Comisiynu, mae S4C yn disgwyl i gopi Betacam Digidol o'r rhaglenni a ddarlledir i lawr y llinell, ynghyd dau gopi VHS (un gyda chd amser ac un hebddo) gael eu cyfleu i lyfrgell S4C o fewn pythefnos o ddarlledu'r rhaglen neu fel a nodwyd yn y Cytundeb.
Mae cerdyn cyswllt ar gael i atgoffa Cynhyrchwyr o rifau ffn cyswllt S4C.
Gellir cael cardiau gan Llinos ar 029 20741490 neu Elen ar 029 20741265
Oriau gwaith swyddfa: 09:00---17:15
- Llyfrgellydd S4C:
- 029 20 741209
- Yr Adran Gyflwyno:
- 029 20 741265
- Ffacs 029 20 741259
Y tu allan i oriau swyddfa:
- PYR (P.Cs):
- 029 20 741230
- PYR (Peirianneg):
- 029 20 741240
- Ffacs 029 20 741375
Sefydlogrwydd Signal / Line-up:
Rhaid bod yr adnoddau ar y safle yn gallu cynhyrchu signalau line-up sain a fideo. Dylai'r rhain fod wedi eu cyfansoddi o fariau lliw 100% (75% os yw'r signal llun yn mynd i gael ei gysylltu trwy loeren) ynghyd thn gyfeirio lefel sero. Ar gyfer cynnyrch stereo, dylai'r tn sianel llaw chwith fod yn ysbeidiol. Bydd hefyd angen pwls a bar fideo, fel signal prawf wedi'i fewnosod sydd orau, i gyfartalu'r cylched.
Rhaid bod signalau line-up ar gael o leiaf 30 munud cyn dechrau'r rhaglen a rhaid penodi peiriannydd i gysylltu PYR S4C.
Rhaid i'r signal fideo fod yn sefydlog ac yn barhaus drwy gydol y darllediad.
Beth yw'r trefniadau os yw fy rhaglen yn un amserol a bod angen ei chyfleu ar y diwrnod darlledu?
Mae'r Cytundeb Comisiynu yn nodi amser penodol ar gyfer cyfleu tapiau a ddarlledir ar yr un diwrnod.
Dylid cadarnhau lleoliad y cwmni golygu/adnoddau, enw cyswllt (cynhyrchydd neu gyfarwyddwr) a rhif(au) cyswllt i'r Llyfrgellydd yn S4C (rhif ffn 029 20 741209) o leiaf 24 awr o flaen llaw (neu erbyn 16:30 brynhawn dydd Gwener os yw'r rhaglen yn cael ei chyfleu/darlledu yn ystod y penwythnos). Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r Pennaeth Gweithredoedd Technegol, yr Adran Gyflwyno a'r PYR (PCs a Pheirianneg).
Ar l gorffen y gwaith golygu, dylai'r Cynhyrchydd gysylltu ag Adran Gyflwyno S4C i gadarnhau hyd a chynnwys y rhaglen (029 20 741265 yn ystod oriau swyddfa S4C neu Reolwyr Cyflwyno y PYR (PCs) 029 20 741230 ar adegau eraill).
Os nad yw'r Cynhyrchydd yn gallu bodloni'r amodau cyfleu ar y diwrnod, yna ei gyfrifoldeb ef/ei chyfrifoldeb hi yw cysylltu Llyfrgellydd S4C yn ystod oriau swyddfa rhif ffn 029 20 741209 (neu PCs - PYR ar 029 20 741230 ar adegau eraill), i egluro'r amgylchiadau. Pan fo'n briodol, bydd S4C yn cytuno i newid yr amser a'r trefniadau cyfleu.
Bydd S4C yn darlledu rhaglen wrth gefn os nad oes cysylltiad llwyddiannus a/neu os nad yw'r tp wedi cyrraedd ar yr amser a nodir yn y Cytundeb Comisiynu.
Yn unol 'r Cytundeb Comisiynu, bydd S4C yn disgwyl i'r Llyfrgell dderbyn dau gopi VHS o'r rhaglen (un gyda chd amser ac un hebddo) o fewn pythefnos o'r dyddiad darlledu neu fel a nodir yn y Cytundeb.
Allwch chi roi cyngor i mi ar ddelweddau sy'n fflachio yn fy rhaglen?
A. Dyma reolau'r ITC;
- Gall goleuadau'n fflachio a rhai mathau o batrymau gweledol rheolaidd achosi problemau i rai gwylwyr sy'n dioddef o epilepsi ffotosensitif. Pobl iau na 20 oed yw'r grwp sy'n cael ei effeithio'n bennaf ac nid oes llawer ohonynt yn ymwybodol y gallent gael eu heffeithio. Rhaid cymryd gofal i leihau'r risgiau hyn ym mhob rhaglen, ond yn enwedig os oes nifer sylweddol o bobl ifanc yn debygol o fod yn gwylio. Gallai hyn olygu torri neu ddiwygio rhai golygfeydd neu rediannau neu wrthod peth deunydd yn gyfan gwbl. Mae lleihau'r effeithiau yn gallu bod yn broblem o bryd i'w gilydd, er enghraifft gyda rhai mathau o eitemau byw, fel adroddiad newyddion. Os yw'n debygol y bydd y risg yn sylweddol, dylid rhoi rhybudd priodol ar ddechrau'r rhaglen.
- Mae teledu yn gyfrwng sy'n crynu wrth natur (oherwydd cyfradd adnewyddu 50Hz derbynyddion teledu cyffredin ac effeithiau 25Hz sganio rhynglinellol) ac felly nid yw'n bosib cael gwared yn llwyr ar y risg o deledu yn achosi confylsiynau yn y gwylwyr hynny sydd ag epilepsi ffotosensitif. Mae rhai mathau o ysgogiadau gweledol yn fwy tebygol o achosi'r problemau hyn, fodd bynnag, felly dylid osgoi'r rhain mewn rhaglenni neu hysbysebion teledu pan fo'n bosib.
- Dylid osgoi delweddau lliw neu ddu a gwyn sy'n fflachio ac yn crynu, sy'n achosi newidiadau i ddisgleirdeb y sgrn o fwy na 10% o arwynebedd y sgrn ar gyfradd uwch na 3 fflach yr eiliad.
- Mae newidiadau ailadroddus rhesymol yn nisgleirdeb y sgrn sy'n fwy na 10% o arwynebedd y sgrn yn dderbyniol, ar yr amod nad yw'r gwahaniaeth dros unrhyw ddwy ffrm ddilynol yn fwy na 10%. Caiff hwn ei fesur fel y gwahaniaeth yn nisgleirdeb y sgrn rhwng arwynebedd y ddelwedd oleuaf a thywyllaf cyfatebol wedi'i fynegi fel canran o'r ddelwedd fwyaf llachar. Bydd newidiadau o fwy na 10% yn y disgleirdeb yn cynhyrchu fflach weledol ac mae hyn yn risg. Yn yr achos hwn, dim ond un fflach a ganiateir mewn unrhyw gyfnod o naw ffrm.
- Mae newidiadau o fwy na 10% i lefel y disgleirdeb hefyd yn dderbyniol mewn arwynebeddau bach. Gall hyd at 10% o'r sgrn, naill ai un arwynebedd neu gyfanswm o rannau llai, newid ar unrhyw gyfradd neu lefel disgleirdeb.
- Mae fflachiadau sy'n cynnwys lliw coch cryf yn arbennig o beryglus a dylid eu hosgoi.
- Mae golygfeydd o ddelweddau'n newid yn gyflym yn bryfoclyd pan fnt yn creu newid gweledol mewn disgleirdeb dros fwy na 10% o arwynebedd y sgrn, ar gyfradd uwch na 3 newid yr eiliad. Bydd delwedd, sy'n newid bob 9 ffrm neu fwy, waeth pa mor llachar ydyw neu beth bynnag fo arwynebedd y sgrn, yn cydymffurfio 'r canllaw hwn.
- Dylid osgoi patrymau rheolaidd, sy'n gorchuddio mwy na 10% o arwynebedd y sgrn. Gall cylch un patrwm gynnwys rhannau fertigol, llorweddol, croeslinol, cylchol, llinell reidiol neu far ar wahn sy'n cael eu dilyn gan ran o wahanol ddisgleirdeb. Gall cylchoedd patrwm, sy'n cael eu hailadrodd, ffurfio patrymau grid.
- Ystyrir bod patrwm yn bryfoclyd os yw'n cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 10 i 40 cylch ar draws y sgrn a bod y gwahaniaeth yn nisgleirdeb y sgrn rhwng unrhyw ddwy ran sy'n dilyn ei gilydd yn fwy na 10%.
- Ni chaiff patrymau sy'n symud, sy'n llifo ar draws, i mewn neu allan o'r sgrn mewn un cyfeiriad eu hystyried yn beryglus. Fodd bynnag, mae patrwm symudol sy'n newid cyfeiriad, yn tonni, yn fflachio neu'n gwrthdroi mewn cyferbyniad yn arbennig o beryglus. Ni chaniateir patrymau cyferbyniol sy'n gwrthdroi sy'n defnyddio lliw coch cryf.
- Gall delweddau manwl iawn a grwyd gan gyfrifiadur achosi lefel uchel o gryniad rhynglinellol yn y llun ar gyfradd o 25 gwaith yr eiliad a dylid eu hosgoi.
Mae disgleirdeb y sgrn yn cyfeirio at ddwysedd goleuder. Gellir ei fesur yn uniongyrchol ar sgrn monitor gan ddefnyddio ffotomedr sbot sy'n addas ar gyfer mesuriadau teledu. Nid yw goleuder tonffurf fideo yn fesur uniongyrchol o ddisgleirdeb sgrn arddangos.
Sut mae S4C yn ymdrin rhaglenni sgrn lydan?
Mae gan S4C ddau amgylchedd darlledu, Analog a Digidol.
Ar gyfer ein gwasanaethau Digidol, caiff rhaglenni sgrn lydan eu darlledu fel rhai sgrn lydan. Bydd gwylwyr theledu sgrn lydan yn gweld y llun llawn; bydd y rheini setiau 4:3 cyffredin yn gweld darn canol y llun sgrn lydan. Mae'r effaith yn dibynnu ar y blwch pen set y mae'r gwyliwr yn ei ddefnyddio i dderbyn ei signal digidol.
Felly, wrth saethu a rhoi capsiynau ar raglenni sgrn lydan sydd i'w darlledu'n Ddigidol, rhaid cofio mai dim ond canol y llun y bydd rhai gwylwyr yn gallu ei weld.
Ar ein gwasanaeth analog, rydym yn darlledu rhaglenni sgrn lydan ar ffurf blwch post 14:9. Mae hyn yn rhoi stribedi cul du ar dop a gwaelod y llun ac yn colli ychydig bach o ymylon y ffrm, tua 6%. Eto, rhaid ystyried hyn wrth saethu a rhoi capsiynau ar raglenni sgrn lydan. Dylai hyn esbonio'r rheswm dros y cais am 'saethu a diogelu 14:9' ar gomisiynau 16:9.
Yn olaf, cofiwch y dylid darparu rhaglenni sgrn lydan i S4C yn eu ffurf Uchder Llawn Anamorffig ac nad yw S4C yn derbyn rhaglenni a ddarperir mewn unrhyw ffurf o'r fformat Blwch Post.
Wrth gynhyrchu animeiddiadau ar gyfrifiadur, pa gymhareb agwedd a sip picsel ddylwn i eu defnyddio?
Dylid dewis cymhareb picsel Canfas yn newislen y rhaglen (e.e. PhotoShop) fel bod y gymhareb lorweddol i fertigol yn 16x9 ar gyfer Sgrn Lydan a 4x3 ar gyfer sgrn safonol. Mae rhywfaint o gymhlethdod oherwydd bod picseli cyfrifiadur yn sgwr a phicseli teledu braidd yn hirsgwr, neu 1.0667 gwaith mor lydan i fod yn fanwl gywir.
Felly er bod llun teledu yn 720 o led wrth 576 o uchder, os dewisir y gymhareb hon yn y pecyn cyfrifiadurol ar gyfer y canfas yna bydd cylch perffaith sydd wedi ei greu ar y cyfrifiadur, o'i wylio ar y teledu, yn edrych fel petai wedi cael ei ymestyn (sip wy). Mae'n hawdd datrys hyn o ddewis y cymarebau canlynol:
- a) Ar gyfer deunydd sydd i'w ddangos ar deledu ar fformat Sgrn Lydan 16x9 1024 ar draws x 576 i fyny.
- b) Ar gyfer deunydd sydd i'w ddangos ar deledu ar fformat 4x3, 768 ar draws x 576 i fyny.
Mae'r cymarebau hyn fel arfer ar ddewislen y rhan fwyaf o becynnau graffeg cyfrifiadurol poblogaidd. Os oes unrhyw amheuaeth, dylid, yn l y drefn arferol, greu darn prawf byr a'i gyflwyno i Adran Beirianneg S4C i'w wirio cyn dechrau'r prif brosiect.
