Tendrau
Archif Tendrau
Gwahoddiad i Dendro ar gyfer Sylwebaeth Saesneg
Mae S4C yn gwahodd tendrau ar gyfer gwasanaeth sylwebaeth chwaraeon Saesneg.
Cwestiwn 1
Pa adnoddau sydd ar gael i leoli rhan o'r gwasanaeth yn S4C?
Ateb 1
Y mae adnoddau ar gyfer trosleisio sylfaenol ar gael. Byddai angen trafodaeth bellach os byddai angen adnoddau eraill. Os ydych yn bwriadu lleoli'r uned sylwebu fyw yn S4C nodwch unrhyw ragdybiaethau yn eich cais.
Cwestiwn 2
Pryd yn union – pa gêm/rhaglen – fydd y gyntaf i gael y gwasanaeth newydd?
Ateb 2
Fe fyddem yn hoffi dechrau’r gwasanaeth cyn gynted ag sy’n bosib ond yn dibynnu ar beth sydd yn ymarferol. Nodwch unrhyw ragdybiaethau am gyfnod cychwyn yn eich cais.
Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma (dogfen pdf)
Cytundeb i Gynhyrchu a Chyfleu Sylwebaeth Chwaraeon Sasneg ac i Ddarparu Gwasanaethau (dogfen pdf)
Gwahoddiad i Dendro - Gwasanaeth Dysgwyr i S4C
Mae S4C yn gwahodd tendrau ar gyfer gwasanaeth cynhwysfawr i ddysgwyr Cymraeg, a fydd yn apelio at ddysgwyr o bob oed, gallu a diddordeb.
Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma
Gwahoddiad i Dendro - Cwpan Rygbi Ewrop 2008/9 a 2009/10
Mae S4C yn berchen ar yr hawliau ecscliwsif i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg, ar wasanaethau teledu rhad ac am ddim, uchafbwyntiau Cwpan Rygbi Ewrop (a adnabyddir fel Cwpan Heineken ar hyn o bryd) am y ddau dymor nesaf. Gwahoddir cynhyrchwyr i gynnig am y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni uchafbwyntiau a fydd yn ymateb i ddisgwyliadau a dyheadau S4C.
Fe fydd cytundeb comisiynu drafft yn cael ei gyhoeddi erbyn 16 Gorffennaf.
Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma
Cytundeb drafft - Cwpan Rygbi Ewrop 2008/9 a 2009/10
Gwahoddiad i dendr - Pencampwriaeth Rygbi'r Byd dan 20 yr IRB
17-Ebr-2008
Mae S4C, mewn partneriaeth gyda'r BBC, mewn trafodaethau i sicrhau hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi'r Byd dan 20oed yr IRB, a gynhelir yng Nghymru yn ystod mis Mehefin 2008.
Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar y 6ed o Fehefin 2008, a darlledir y gemau byw o Barc yr Arfau Caerdydd, Rodney Parade Casnewydd a Stadiwm Liberty Abertawe. Bwriedir darlledu 11 gêm fyw yn ogystal â rhaglenni uchafbwyntiau. Noder amserlen dynn y tendr yma
Am fwy o fanylion cliciwch yma
Er mwyn osgoi amheuaeth, fe fydd angen i’r prif ddarlledwr ddarparu’r isod, o bob lleoliad lle fydd yna gêm fyw:
Pan fydd S4C yn fyw:
- Darpariaeth fyw gyda graffeg a sylwebaeth Gymraeg. I S4C.
- Darpariaeth fyw gyda graffeg a sylwebaeth Saesneg ar gyfer y ffîd ryngwladol a BBC Cymru. I Dwr BT ac i BBC Cymru.
- Does yna ddim trafodaeth wedi bod ynglŷn â’r posibiliad o ddefnyddio llinell wrth gefn ar gyfer y ffîd rhyngwladol ac mae’n annhebygol y byddai’r IRB yn cytuno i hyn.
Pan fydd BBC Cymru yn fyw:
- Darpariaeth fyw gyda graffeg a sylwebaeth Saesneg ar gyfer y ffîd rhyngwladol a BBC Cymru. I BBC Cymru a Twr BT.
- Darpariaeth byw, yn lân o bob graffeg ar gyfer uchafbwyntiau S4C.
- Fe ddylai’r ymgeisydd gynnig ffyrdd effeithiol o gyfleu’r ddarpariaeth uchafbwyntiau i S4C.
Noder hefyd fod yr IRB wedi cadarnhau’r newidiadau isod i amser cychwyn rhai o’r gemau:
- Gêm 8 – y gic gyntaf am 1910
- Gêm 16 – y gic gyntaf am 1910
- Gêm 32, ar y 4ydd diwrnod, yr ail opsiwn – y gic gyntaf am 2110
Tendr i gynhyrchu darpariaeth S4C o daith tim rygbi Cymru i Dde Affrica
02-Ebr-2008
Lawrlwythwch gwybodaeth am y tendr yma
Tendr Cynhyrchu Dolenni Cyflwyno ar gyfer Darpariaeth Estynedig Plant Meithrin S4C
12-Maw-2008
Cwestiwn 1
A allwch chi gadarnhau y bydd yn bosib defnyddio cymeriadau newydd ( yr anifeiliaid ) sydd wedi’ creu ar gyfer Planed Plant Bach sef Llew, Cyw, Bolgi, Plwmp, Jangl a Deryn. A’i gan S4C mae’r hawlfraint llwyr?
Ateb 1
Mae’r ddogfen dendr yn nodi y ‘ bydd modd adeiladu ar frand, delweddau a chymeriadau Planed Plant Bach sydd yn eiddo i S4C’. Mae’r cymeriadau a restrir uchod yn eiddo i S4C
Cwestiwn 2
Oes gennych arweiniad o minimum a max duration o ddolenni ym mhob awr? A hefyd min-max y slot hanner awr.
Ateb 2
Mae’r ddogfen dendr yn nodi ‘Rhagwelwn, ar gyfartaledd, bydd angen tua 5 munud o ddolenni cyflwyno bob awr (er y gall hyn amrywio), wedi eu recordio o flaenllaw’. Yn naturiol bydd llai o amser i’w lenwi o fewn ac o gwmpas y slot hanner awr. Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi enghreifftiau o’r math o raglenni (a’u hyd) y gellir eu darlledu.
Cwestiwn 3
Yn ôl gwefan TAC yr unig gyferiad penodol at gyfradd WGGB ar gyfer Sgriptiau Cyn Ysgol ydi “Deialog £21 y funud gyda’r amlinelliad a’r fformat wedi’i ddarparu gan y Cynhyrchydd neu drydydd parti”. O ddilyn y fformiwla hwn os oes angen sgriptio100 munud yr wythnos yna mae’r cyfanswm dros £100,000 am flwyddyn. Ai dyma’r gyfradd berthnasol? Beth yw canllawiau S4C ar gyfer cyllidebu tendr y Dolenni Meithrin?
Ateb 3
Mae’r ddogfen dendr yn nodi fod S4c ‘yn chwilio am syniadau dyfeisgar, gwreiddiol ac amrywiol ar gyfer cyflwyno’r rhaglenni yn y ddarpariaeth estynedig’. Mae rhyddid i gwmniau unigol i gynnig eu syniadau am y ffordd orau o wireddu hyn. Mater i’r cwmni fydd penderfynu a oes angen y math o sgriptio a ddiffinir yng nghytundeb y WGGB. Mae’r ddogfen dendr yn gofyn i gwmniau gynnwys cost clirio’r dolenni i’w darlledu’n ddigyfyngiad ar wasanaethau S4C (gan gynnwys y we/bandllydan) ond os rhagwelir unrhyw gyfyngiadau fe ddylid nodi hynny yn glir yn y cais.
Cytundeb Drafft Darpariaeth Estynedig Plant Meithrin S4C
06-Maw-2008
Cytundeb Drafft Darpariaeth Estynedig Plant Meithrin S4C
Dolenni Meithrin – Gwahoddiad i Dendr
03-Maw-2008
GWAHODDIAD I DENDR - Darpariaeth S4C o Bêl-droed Cymru
Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau darlledu ar gyfer pêl-droed rhyngwladol Cymru a domestig tan 2012, gan ddechrau gyda thymor 2008/09. Rydym wedi sicrhau'r hawl i ddarlledu uchafbwyntiau ecsgliwsif o gêmau pêl-droed cartref Cymru, gan gynnwys rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 a Phencampwriaeth Ewrop 2012. Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys gêmau byw a phecynnau uchafbwyntiau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru yn ogystal â darpariaeth llwyfannau eraill o'r cystadlaethau hynny. Drwy ddilyn y Strategaeth Rhaglenni gwahoddir cynhyrchwyr i gynnig am y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni byw ac uchafbwyntiau, yn ogystal ag elfennau llwyfannau eraill a fydd yn ymateb i ddisgwyliadau a dyheadau S4C.
Dogfennau Atodol
- Canllawiau Technegol a Chynhyrchu Gwefannau S4C - Dyma ddrafft diweddaraf y canllawiau fydd yn weithredol ar gyfer y tendr hwn. Mae'r canllawiau yn cael eu datblygu ymhellach ar hyn o bryd a bydd unrhyw ddiweddariad yn cael ei gyhoeddi ar y wefan tendr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau a fyddech gystal â'u hanfon at tendr@s4c.co.uk.
- Cliciwch yma i weld drafft o'r cytundeb comisiynu
Cwestiynau ac Atebion
Cwestiwn 1
Beth yw costau derbyn lluniau Gemau Rhyngwladol Cymru gan Sky?
Ateb 1
oni bai fod y cwmni yn gofyn i Sky Sports i ddarparu cyfleusterau penodol ychwanegol (e.e. pwynt sylwebu), yna ni fydd disgwyl unrhyw gostau ychwanegol oddi wrth Sky.
Cwestiwn 2
Mae pwynt 2.4 yn dweud: "Mae S4C wedi cytuno i gydweithio gyda chymdeithas Pêl-droed Cymru i sefydlu llwyfannau eraill i bêl-droed Cymru" Beth yn union yw hyd a lled y cytundeb yma?
Ateb 2
Mae S4C wedi trafod y posibilrwydd o greu darpariaeth aml lwyfan a fydd yn datblygu'r diddordeb ym mhêl-droed Cymru. Croesawir syniadau.
Dyddiad cau: 12:00 canol dydd ar ddydd Iau'r 14eg o Chwefror 2008.
Cwestiwn 3
Oes angen rhoi 2 gyllideb i mewn - un i’r ddarpariaeth deledu a’r llall i’r llwyfannau eraill neu oes modd cyfuno’r ddau os ydi’r naill yn rhan anhepgor o’r llall ?
Ateb 3
Rydym yn hapus i dderbyn un cyllideb ar yr amod bod y manylion wedi eu heitemeiddio fel bod modd i ni adnabod yr holl elfennau.
TENDR INCWM HYSBYSEBU A NAWDD S4C
Mae S4C Rhyngwladol i gyhoeddi tendr agored ar gyfer cytundeb i greu a chodi incwm hysbysebu a nawdd o’r cyfleodd masnachol sydd ar gael o fewn gwasanaethau teledu a band llydan S4C.
Bydd manylion llawn y cytundeb tair blynedd o hyd ar gael ar wefan S4C Rhyngwladol – www.s4c.co.uk/s4ci - o heddiw (18 Ionawr) ymlaen. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 6 Chwefror.
S4C Rhyngwladol yw cangen fasnachol y darlledwr cyhoeddus Cymraeg S4C.
TENDR IS–DEITLO AR GYFER RHAGLENNI HWYR A BYW
Mae angen i S4C gyfleu isdeitlau ar gyfer rhaglenni yn hwyr yn hwylus ac yn effeithiol ac yn edrych am gwmni/au arbenigol sydd yn gallu cynnig gwasanaeth isdeitlo o safon ar gyfer y rhaglenni yma.
Canlyniad y tendr - 05-Rhag-2007
Yn dilyn proses dendro agored, rhennir y cytundeb sydd am gyfnod o dair blynedd (2008-2010) i ddarparu isdeitlau Byw a Hwyr rhwng Cwmni Tinopolis a Chwmni Testun. Bydd Tinopolis yn gyfrifol am ddarparu isdeitlau ar gyfer y rhaglenni byw a hwyr sy’n cael eu darparu ganddyn ‘nhw , a bydd Testun yn edrych ar ôl gweddill y ddarpariaeth.
TENDR CYFRES DDOGFEN FFEITHIOL - 'WILD RUSSIA'
Canlyniad y tendr - 26-Hyd-2007
Mae Teledu Telesgop wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu’r gyfres ddogfen ffeithiol 'Wild Russia'.
Darllen y tendr cyfan (pdf)
Triniaeth wreiddiol gan Parthenon - Saesneg yn unig (pdf)
TENDR CYPRUS v CYMRU
Canlyniad y tendr - 03-Medi-2007
Mae Ffilmiau’r Nant wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu gêm bêl-droed fyw ecsgliwsif Cyprus v Cymru, ynghyd â rhaglen uchafbwyntiau.
TENDR GWASANAETHAU CYFLWYNO'R TYWYDD I S4C
Canlyniad y tendr - 29-Awst-2007
Mae ITV Cymru wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu gwasanaeth tywydd S4C. Bydd y cytundeb tair blynedd o hyd yn dod i rym ym mis Tachwedd eleni.
Cliciwch yma am fanylion y tendr (pdf)
Cliciwch yma am Atodlen B (pdf)
TENDR GŴYL CERDD DANT CYMRU 2007–2009
Canlyniad y tendr - 02-Gorff-2007
Yn dilyn proses dendro, mae S4C wedi dewis cwmni cynhyrchu Avanti Cyf i gynhyrchu darllediadau o'r Wyl Cerdd Dant dros y tair blynedd nesa'.
Mae’r Ŵyl Gerdd Dant yn ddigwyddiad blynyddol sy’n un o’r uchelfannau yn ein hamserlen ddarlledu. Mae S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu rhaglenni o Ŵyl Cerdd Dant Cymru am y cyfnod 2007 i 2009.
Cliciwch yma am fanylion y tendr (pdf)
Cliciwch yma am gytundeb drafft (pdf)
TENDR RYGBI'R GYNGHRAIR
Canlyniad y tendr - 01-Meh-2007
Yn dilyn proses dendro, mae S4C wedi dewis cwmni cynhyrchu Nant Cyf i gynhyrchu’r gyfres rygbi’r cynghrair newydd Y Clwb Rygbi 13, yn amodol ar gytundeb.
Cliciwch yma am fanylion y tendr (pdf)
TENDR PLANT S4C gan gynnwys Cwestiynau ac Atebion
Canlyniad y tendr - 04-Ebr-2007
Mae Grŵp Boomerang wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu dolenni cyflwyno gwasanaeth plant S4C.
Bydd y cytundeb newydd yn dod i rym ym mis Mehefin, gyda’r dolenni cyflwyno ar eu newydd wedd yn cael eu darlledu am y tro cyntaf ddiwedd Hydref.
Mae dylunio a chynnal gwefan newydd hefyd yn rhan o’r cytundeb dwy flynedd o hyd.
Nodiadau ychwanegol 01-Maw-2007
Cytundeb drafft 07-Maw-2007
TENDR CWPAN RYGBI'R BYD 2007
Canlyniad y tendr - 15-Maw-2007
Yn dilyn proses dendr mae S4C wedi dewis cwmni cynhyrchu Sunset+Vine Cymru i gynhyrchu darpariaeth y Sianel o gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2007, yn amodol ar gytundeb.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Ffrainc, Cymru a’r Alban yn ystod misoedd Medi a Hydref eleni. Bydd isafswm o 18 gêm fyw a rhaglenni uchafbwyntiau o’r gystadleuaeth yn cael eu darlledu ar S4C.
Cliciwch yma am fanylion y tendr
GWASANAETH SBECTEL gan gynnwys Cwestiynau ac Atebion
Canlyniad y tendr -
Yn dilyn proses dendro agored, mae cwmni Testun wedi cael cynnig cytundeb gan S4C i ddarparu Gwasanaeth gwybodaeth rhaglenni teletestun Analog ‘Sbectel’ a thestun ‘Sbectel Digidol’ (Digital Text) ar gyfer y Sianel am y dair blynedd nesaf.
Mae’r gwasanaeth SBECTEL ar S4C yn cynnig arlwy dyddiol o erthyglau amrywiol ynghylch rhaglenni S4C yn ogystal ag amserlenni darlledu,manylion y tywydd,gwasanaethau atodol ac eitemau amrywiol eraill.
Mae Sbectel Digidol ar gael drwy’r botwm coch ar Sky ar hyn o bryd, ac mae hyn yn gyfle gwych i Testun i ymestyn y gwasanaeth yma i’w llawn botensial mewn cyfnod hefyd ble bydd y gwasanaeth ar gael ar Freeview hefyd yn ystod 2007.
GWAHODDIAD I DENDRO - DYBIO RHAGLENNI A CHYFRESI ANIMEIDDIEDIG
Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi.
Cliciwch yma am fanylion y tendrDYBIO RHAGLENNI A CHYFRESI ANIMEIDDIEDIG - gweler newyddion
Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi.
Cliciwch yma am fanylion y tendr a chwestiynau ac atebion ynglyn â'r tendrISDEITLO
Canlyniad y tendr -
Mewn cystadleuaeth dendro agored, mae cwmni Acen wedi adennill yr hawl i ddarparu isdeitlau Cymraeg ar raglenni S4C o Ionawr 2007 am gyfnod o dair blynedd.
Bwriad y gwasanaeth isdeitl Cymraeg yw gwasanaethu’r byddar a’r trwm eu clyw Cymraeg eu hiaith yn ogystal â dysgwyr, a’r rhai sy’n ystyried eu Cymraeg yn ansicr, fel y gallant oll fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.
Bydd Acen yn darparu10 awr yr wythnos ar gyfartaledd o isdeitlau Cymraeg i S4C, y mwyafrif ar raglenni fydd i’w gweld yn ystod yr oriau brig ar wasanaeth analog y sianel a’r rhaglenni cydamserol ar ddigidol.
LLIWIAU: WORLD OF COLOURS - wedi cau
Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi.
Cliciwch yma am fanylion y tendr a chwestiynau ac atebion ynglyn â'r tendrJAZZ ABERHONDDU – wedi cau
Canlyniad y tendr - 20-Gorff-2006
Mae cwmni teledu o Gaerdydd, sy’n arbenigo mewn rhaglenni’r celfyddydau, cerddoriaeth ac antur, wedi ennill cytundeb tair blynedd gydag S4C i ddarlledu o HSBC Gwyl Jazz Ryngwladol Aberhonddu.
Fe fydd Indus Films, a grëwyd yn 2005 gan Paul Islwyn Thomas, Steve Robinson ac Emyr Byron Hughes, yn darlledu o’r wyl fyd-enwog, a gynhelir rhwng 11 a13 Awst, sydd eleni yn cymryd New Orleans fel thema.
Fe ddarlledir pecyn o uchafbwyntiau yn cynnwys perfformiadau o rai o’r 120 o gyngherddau a gynhelir dros y tridiau ar S4C, ynghyd â chyngerdd gospel arbennig. Bydd oriau darlledu S4C o’r wyl yn cynyddu yn 2007 a 2008.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL - wedi cau
Canlyniad y tendr - 03-Gorff-2006
Mae S4C wedi gwobrwyo cytundeb gwerth £2m i gwmni teledu Avanti yn y Rhondda i gynhyrchu'r gyfres canu emynau boblogaidd, Dechrau Canu Dechrau Canmol, un o gyfresi teledu mwyaf hirhoedlog y DU. Bydd Avanti, a wobrwywyd y cytundeb yn dilyn proses dendro agored, yn gyfrifol am oddeutu deugain o raglenni bob blwyddyn dros gyfnod y cytundeb dwy flynedd o hyd. Bydd gwaith cynhyrchu ar gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dechrau ym mis Gorffennaf. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref ac ar gael i wylwyr ar fand llydan am y tro cyntaf erioed.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
CYTUNDEB ANIMEIDDIO AR GYFER S4C – wedi cau
Canlyniad y tendr - 03-Awst-2006
Rhennir yr arian, a wobrwywyd yn dilyn proses dendro gystadleuol, rhwng cwmni Calon ym Mae Caerdydd, Griffilms, sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd, a phartneriaeth rhwng Cwmni Da o Gaernarfon, a Dinamo o Gaerdydd. Bydd Calon yn derbyn £250,000, tra bydd Griffilms yn derbyn £150,000 a phartneriaeth Cwmni Da/Dinamo yn derbyn £100,000.
Dros gyfnod o ddwy flynedd, disgwylir i'r tri chwmni ddatblygu a chyfleu nifer o brosiectau animeiddio aml-lwyfan, yn amrywio o ffilmiau byrion rhwng 10 eiliad a 10 munud o hyd, i ddeunydd hyrwyddo. Bydd disgwyl i'r prosiectau adlewyrchu blaenoriaethau rhaglenni S4C, a amlinellir yn Strategaeth Rhaglenni'r Sianel, gan ganolbwyntio ar gynulleidfaoedd teuluol, plant a hwyr y nos yn benodol.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
RHAGLEN DDAWNS – wedi cau
Canlyniad y tendr i'w gyhoeddi
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
PROSIECT HUNANIAETH BRAND S4C – wedi cau
Enillydd y cytundeb - 05-Gorff-2006
Mae S4C wedi penodi Proud Creative i ymgymryd â'r gwaith o ailfrandio'r Sianel yn gyfan gwbl yn barod ar gyfer y newid i Ddigidol yng Nghymru yn 2009. Wedi'i sefydlu gan gyn gyfarwyddwr creadigol Kemistry, Dan Witchell, yn 2005, fe ddewiswyd Proud o blith rhestr fer o bum cwmni a hynny ar ôl proses dendro gystadleuol. Bydd Proud yn dechrau ar y prosiect ail-frandio yn syth bin, a bydd y gwaith yn cynnwys ail-frandio aml-lwyfan, ar y sgrin, oddi ar y sgrin ac ar-lein.
Am fanylion pellach, cliciwch yma
CÂN I GYMRU 2006-2007 – wedi cau
Canlyniad y tendr - 07-Rhag-2005
Mae cytundeb dwy flynedd o hyd sy'n werth £500,000 wedi ei gynnig i gwmni teledu Avanti, sydd wedi ei leoli yn y Rhondda, i ddarlledu cystadleuaeth flynyddol S4C Cân i Gymru.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
MESSNER'S ALPS – wedi cau
Canlyniad y tendr - 22-Tach-2005
Yn dilyn proses dendro agored, mae cwmni P.O.P. 1 wedi cael cynnig cytundeb gan S4C i ddarparu rhaglen ddogfen gynhwysfawr yn y Gymraeg ar daith y mynyddwr, naturiaethwr a gweithredwr byd-enwog, Reinhold Messner, drwy'r Alpau. Mae'r rhaglen yn rhan o gyd-gynhyrchiad rhyngwladol gyda Schwenk Films o'r Almaen, y mae S4C yn ei ran-ariannu, ac ynddi bydd Messner yn cynnig golwg ar fyd diddorol natur a dyn, diwylliant a pheirianneg, economeg, gwyddoniaeth, twristiaeth a mynydda.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
Y SIOE FRENHINOL A'R FFAIR AEAF – wedi cau
Canlyniad y tendr - 16-Tach-2005
Mae partneriaeth rhwng Boomerang, ITV Cymru a Theledu Apollo wedi cael cynnig cytundeb i ddarparu darllediadau o'r Sioe Fawr a'r Ffair Aeaf. Bydd y bartneriaeth newydd yn gyfrifol am oddeutu 180 awr o ddarlledu. Mae'r cytundeb pedair blynedd yn werth £2 miliwn.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
CYFLENWI GWASANAETH ADOLYGU ISDEITLAU – wedi cau
Enillydd y cytundeb yw Testun Cyf.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
CYFRES CHWARAEON I BLANT - wedi cau
Canlyniad y tendr - 08-Tach-2005
Mae cwmni teledu Avanti wedi sicrhau mewn cystadleuaeth agored gytundeb £200,000 i gynhyrchu cyfres gylchgrawn chwaraeon i blant sy'n rhoi sylw i bob mathau o gampau, yng Nghymru a thu hwnt. Bydd Stamina (20x20') yn rhoi blas i wylwyr o chwaraeon nad ydynt yn cael eu darlledu'n aml ar sianeli daearol e.e. reslo sumo, bocsio cic, pêl fas a chwaraeon eithafol, yn ogystal â champau mwy cyfarwydd megis rygbi a phêl-droed. Bydd cyflwynwyr yn y stiwdio yn pontio eitemau wedi eu ffilmio ar leoliad gyda deunydd ffilm o archif chwaraeon S4C a deunydd wedi ei brynu i mewn, fydd hefyd yn cynnwys clipiau doniol o bethau'n mynd o chwith.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
RHAGLENNI EISTEDDFOD YR URDD – wedi cau
Canlyniad y tendr - 05-Hyd-2005
Mae Cwmni Da/Tonfedd Eryri a Boomerang wedi sicrhau cytundeb £4 miliwn gan S4C i ddarlledu Eisteddfod yr Urdd dros y pedair blynedd nesaf. Bwriedir darparu elfen ryngweithiol gref i'r darllediadau digidol.
Cliciwch yma am fanylion y tendr.
GYTUNDEBAU DATBLYGU - wedi cau
Canlyniadau'r Tendr Datblygu - 11-Gorff-2005
Pum cwmni sydd i rannu cronfa ddatblygu £1 miliwn S4C, cyhoeddodd y Sianel heddiw, ar derfyn proses o dendro agored a roddodd gyfle i gwmnïau cynhyrchu gystadlu am arian i ddatblygu ystod o brosiectau.
Grwp Boomerang a chwmnïau Green Bay a Presentable yng Nghaerdydd, Tinopolis yn Llanelli, ac yng Nghaernarfon, Cwmni Da – sy'n uno gyda Tonfedd Eryri - sydd wedi ennill cytundebau datblygu S4C.
Bydd Grwp Boomerang, sy'n ymgorffori Boomerang, Al Fresco a Fflic, mewn cytundeb gydag ITV1 Wales yn derbyn £350,000 i ddatblygu syniadau mewn meysydd amrywiol.
Mae Green Bay yn derbyn £140,000 i ddatblygu syniadau ym maes ffeithiol. Fel rhan o'r cynnig bydd Green Bay yn cydweithio gyda chwmni Chwarel, sydd wedi ei leoli yn Llanystumdwy.
Mae Presentable yn derbyn £100,000 i ddatblygu ystod o syniadau ym maes adloniant. Mae Tinopolis yn derbyn £140,000 i ddatblygu syniadau ym maes drama.
Mae Cwmni Da – sy'n uno gyda Tonfedd Eryri – yn derbyn £300,000 i ddatblygu syniadau mewn gwahanol feysydd. Ymhlith y syniadau hynny mae cynlluniau i sefydlu uned sgriptio traws-genre a chreu adnodd fideo cymunedol. Fel rhan o'r broses dendro, mae S4C hefyd wedi comisiynu darn o waith gan Ffilmiau'r Bont, er nad yw'r cwmni hwnnw wedi cael cynnig cytundeb datblygu.
Telesgôp i Ddatblygu Ffermio - 19-Gorff-2005
Mae cwmni cynhyrchu Telesgôp wedi cael cytundeb gan S4C i ddatblygu gwasanaeth rhyngweithiol sy'n cyd-redeg â chyfres a bwletinau Ffermio. Bydd y gwasanaeth newydd yn defnyddio technolegau newydd, gan gynnwys y rhyngrwyd, band llydan a gwasanaethau botwm coch, er mwyn rhannu'r newyddion diweddaraf am fyd amaeth a chefn gwlad gyda gwylwyr a defnyddwyr.
