Y Gwasanaeth Rhaglenni
Cynllunir gwasanaeth rhaglenni S4C i ddarparu ystod eang o raglenni i wylwyr o bob oedran, diddordeb ac ym mhob rhan o Gymru. Mae prif fyrdwn ein comisiynu ar y gwasanaeth oriau brig a rhaglenni plant. Rydym hefyd yn comisiynu oriau ychwanegol ar gyfer gwasanaeth digidol S4C.
Mewn partneriaeth â chynhyrchwyr ein rhaglenni rydym yn gweithio i hybu creadigrwydd o'r radd flaenaf. Mae safonau cynhyrchu uchel gyda phwyslais arbennig ar grebwyll gweledol yn flaenoriaeth.
Rydym yn gweithredu proses barhaus o ddatblygu a chomisiynu. Trefn hyblyg a gweithredol yw hon, sy'n ein galluogi i ymateb i anghenion cynulleidfa a gofynion yr amserlen. Rhoddir ymateb sydyn i gynhyrchwyr parthed unrhyw syniad a gynigir er mwyn hwyluso eu trefniadaeth fusnes.
Rydym yn barod i dderbyn syniadau gan bob cynhyrchydd all gyfleu rhaglenni o safon uchel ac edrychwn ymlaen at ddeialog greadigol.
Cynllun Corfforaethol S4C 2008-2009
Dadlwythwch Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2008
Dadlwythwch Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2007
---Cynllun Corfforaethol S4C 2007-2009
Dadlwythwch Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2007
Dadlwythwch Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2006
Dadlwythwch Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2006
Dadlwythwch Adolygiad Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005
