Neidio at y cynnwys

S4C

Gwahoddiad i Dendro - Pencampwriaeth Rygbi'r Byd dan 20

17-Ebr-2008

Mae S4C, mewn partneriaeth gyda’r BBC, mewn trafodaethau i sicrhau hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20oed yr IRB, a gynhelir yng Nghymru yn ystod mis Mehefin 2008.
Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar y 6ed o Fehefin 2008, a darlledir y gemau byw o Barc yr Arfau Caerdydd, Rodney Parade Casnewydd a Stadiwm Liberty Abertawe. Bwriedir darlledu 11 gêm fyw yn ogystal â rhaglenni uchafbwyntiau.
Noder amserlen dynn y tendr yma

Am fwy o fanylion cliciwch yma

Er mwyn osgoi amheuaeth, fe fydd angen i’r prif ddarlledwr ddarparu’r isod, o bob lleoliad lle fydd yna gêm fyw:

Pan fydd S4C yn fyw:
• Darpariaeth fyw gyda graffeg a sylwebaeth Gymraeg. I S4C.
• Darpariaeth fyw gyda graffeg a sylwebaeth Saesneg ar gyfer y ffîd ryngwladol a BBC Cymru. I Dwr BT ac i BBC Cymru.
• Does yna ddim trafodaeth wedi bod ynglŷn â’r posibiliad o ddefnyddio llinell wrth gefn ar gyfer y ffîd rhyngwladol ac mae’n annhebygol y byddai’r IRB yn cytuno i hyn.

Pan fydd BBC Cymru yn fyw:
• Darpariaeth fyw gyda graffeg a sylwebaeth Saesneg ar gyfer y ffîd rhyngwladol a BBC Cymru. I BBC Cymru a Twr BT.
• Darpariaeth byw, yn lân o bob graffeg ar gyfer uchafbwyntiau S4C.
• Fe ddylai’r ymgeisydd gynnig ffyrdd effeithiol o gyfleu’r ddarpariaeth uchafbwyntiau i S4C.



Noder hefyd fod yr IRB wedi cadarnhau’r newidiadau isod i amser cychwyn rhai o’r gemau:
• Gêm 8 – y gic gyntaf am 1910
• Gêm 16 – y gic gyntaf am 1910
• Gêm 32, ar y 4ydd diwrnod, yr ail opsiwn – y gic gyntaf am 2110

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales