Indus Films yn ennill Cytundeb Rygbi

09-Mai-2008

Yn dilyn proses dendro agored, mae S4C a’r BBC wedi cyhoeddi fod cwmni Indus Films wedi ennill y cytundeb i ddarlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20 y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) ar gyfer y ddwy sianel. Mae’r cytundeb yn cynnwys 11 rhaglen fyw ar gyfer y ddwy sianel a 4 rhaglen uchafbwyntiau.

S4C a’r BBC yw’r prif ddarlledwyr ar gyfer y bencampwriaeth, sy’n cychwyn ar Fehefin 6, fel y cyhoeddwyd gan yr IRB ac Undeb Rygbi Cymru ar Fai 7. Bydd darpariaeth Indus Films yn cael ei ddosbarthu’n fyd-eang.


Darllen y datganiad