Gwasanaeth Rhaglenni
Brîff Golygyddol a Busnes
Os yw’r syniad yn derbyn awdurdodiad y Cyfarwyddwr Rhaglenni i symud i’r cam nesaf, yna bydd gwahoddiad i’r cynhyrchydd lenwi Brîff Golygyddol a Busnes ar gyfer y rhaglen. Bydd gan y cwmni, y Rheolwr Uned a’r Comisiynydd gyfnod o fis er mwyn cytuno ar y ddogfen hon. Dyw’r gwahoddiad yma ddim yn arwydd fod y rhaglen wedi ei chomisiynu, ond yn hytrach, yn gais am wybodaeth yngln â chyfanswm cost a chynnwys y rhaglen er mwyn penderfynu beth fydd tynged y syniad. Bydd disgwyl i’r cwmni gyflwyno ffeil "setup.exe" Brîff Golygyddol a Busnes, i’w cymeradwyo gan y Cynhyrchydd a’r Comisiynydd.
Cliciwch yma i ddadlwytho'r Brîff Golygyddol a Busnes "setup.exe" ffeil
Er mwyn darllen y briff golygyddol a busnes yn ffurf 'Word' fe fydd angen Word 2000 neu uwch ar eich cyfrifiadur. Os nad oes un gennych y feddalwedd yma yna fe allwch ddadlwytho 'viewer' am ddim drwy glicio yma
