Tendrau
Gwahoddiad i Dendro: Gwasanaeth adolygu a llwytho isdeitlau ar gyfer eu darlledu ar S4C
Dyddiad Cau 12:00 canol dydd Llun 20 Hydref 2008
Gwahoddiad i dendro: Gwasanaeth adolygu a llwytho isdeitlau ar gyfer eu darlledu ar S4C (PDF)Gwahoddiad i Dendro: Gwasanaeth isdeitlau Saesneg ar gyfer rhaglenni a dolenni Cyw
Dyddiad Cau 12:00 canol dydd Llun 20 Hydref 2008
Gwahoddiad i dendro: Gwasanaeth isdeitlau Saesneg ar gyfer rhaglenni a dolenni Cyw (PDF)Cytundeb i ddarparu gwasanaeth isdeitlo ar gyfer rhaglenni a dolenni 'Cyw' (PDF)
Gwahoddiad i Dendro 'Gwasanaeth arwyddo ar S4C Digidol.'
Dyddiad Cau 12:00 canol dydd Mawrth 14 Hydref 2008
Gwahoddiad i dendro (PDF)Cytundeb i Gynhyrchu a Darparu Gwasanaeth Arwyddo Ar-y-sgrin ar gyfer S4C digidol (PDF)
Cwestiynau ac Atebion
- A oes unrhyw sgriptiau Saesneg ar gael ymlaen llaw?
- Fe fydd ffeil isdeitlau ar gael yr un pryd â’r tapiau. Gelli anfon y ffeil drwy e-bost ar ffurf text file, .ebu neu .stl.
- Sut ydyn ni’n darganfod pa rhaglenni sydd wedi eu dewis, a phryd? Oes amserlen yn cael ei chyhoeddi?
- Bydd amserlen yn cael ei llunio'n chwarterol a bydd yn cael ei diweddaru'n fisol.
- A fydd y deunydd a'r amserlen ar gael ar yr un pryd?
- Fe fydd yr amserlen ar gael tri 3 mis o flaen llaw, a'r deunydd ar gael o leiaf 10 diwrnod cyn y darllediad.
- Sut mae newidiadau i'r amserlen yn cael eu mynegi?
- Caiff unrhyw newidiadau eu pasio ymlaen trwy e-bost.
- Ydy cyflenwad TX-2 wedi ei seilio ar wythnos o saith neu bump diwrnod?
- Mae'r amserlen yn y tendr wedi ei seilio ar wythnos o saith diwrnod (h.y. os ydy'r darllediad ar ddydd Sadwrn, disgwylir i'r deunydd gyrraedd ar y dydd Iau).
- A oes yna broses safoni o fewn S4C?
- Mae pob tâp sy'n cyrraedd S4C ar gyfer darlledu yn cael prawf technegol ond disgwylir i bob tâp gydymffurfio gyda GofynionTechnegol S4C 2008 (gweler Gofynion Technegol). Fe fyddwn yn gwneud profion ar hap ar safon yr arwyddo twy gydol y cyfnod cytundebu.
- A fydd y deunydd yn ein cyrraedd fesul rhaglen neu fesul cyfres?
- Fe fydd y rhan fwyaf o'r deunydd yn cyrraedd fesul rhaglen (y rhaglenni i gyd ar gyfer y darllediad mewn tua 11 diwrnod) ond mae'n bosibl y bydd ambell un yn cyrraedd fesul cyfres.
- Ydy pob rhaglen a ddewisir ar gyfer arwyddo hefyd yn cael ei hisdeitlo?
- Ydy.
- A fydd isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer arwyddo?
- Bydd.
- Faint o amser sydd rhwng y darllediad gwreiddiol a'r fersiwn wedi ei harwyddo?
- Fel arfer ychydig o ddiwrnodau, ond mae hyn yn gallu amrywio.
Gwahoddiad i Dendro Gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar gyfer S4C
Dyddiad Cau 12:00 canol dydd Mawrth 14 Hydref 2008
Gwahoddiad i dendro (PDF)Cytundeb tendr
Cwestiynau ac Atebion
- Sut ydyn ni'n darganfod pa rhaglenni sydd wedi eu dewis, a phryd? Oes amserlen yn cael ei chyhoeddi?
- Fe fydd amserlen yn cael ei llunio'n chwarterol ac yn cael ei diweddaru'n fisol, tua 2 fis o flaen llaw.
- A fydd y deunydd a'r amserlen ar gael ar yr un pryd?
- Fe fydd yr amserlen ar gael tri 3 mis o flaen llaw, a'r deunydd ar gael tua 10 diwrnod cyn y darllediad.
- Sut mae newidiadau i'r amserlen yn cael eu mynegi?
- Caiff unrhyw newidiadau eu pasio ymlaen trwy e-bost.
- Ydy cyflenwad TX-2 wed ei seilio ar wythnos o saith neu bump diwrnod?
- Mae'r cyflenwad wedi ei seilio ar wythnos 7 diwnod.
- A oes yna broses safoni o fewn S4C?
- Mae pob tâp sy’n cyrraedd S4C ar gyfer darlledu yn cael prawf technegol ond disgwylir i bob tâp gydymffurfio gyda Gofynion Technegol S4C 2008 (gweler Gofynion Technegol).
- A fydd y deunydd yn ein cyrraedd fesul rhaglen neu fesul cyfres?
- Fe fydd tapiau yn cyrraedd fel y maent yn cael eu cyfleu i S4C, fel arfer mae sawl rhaglen mewn cyfres yn cyrraedd yr un pryd.
- A fydd gofyn i addasu ffeiliau yn ogystal â'u creu o’r newydd?
- Yn gyffredinol, ni fydd angen addasu ffeiliau. Mae'n bosibl y bydd angen addasu côd amser ar ambell i ffeil gan fod rhai rhaglenni'n cael eu darlledu gydag a heb doriad ar gyfer hysbysebion.
