Awdurdod S4C - Polisi Masnachu Teg
04-Gorff-2008
Heddiw (04/07/2008) mae Awdurdod S4C yn cyhoeddi ymgynghoriad ar Bolisi Masnachu Teg.
Bwriad y Polisi Masnachu Teg yw sicrhau bod ymwneud S4C gyda’i gyflenwyr yn cael ei gyflawni mewn ffordd deg a rhesymol.
Mae’r Awdurdod yn awyddus i ymgynghori er mwyn derbyn barn rhanddalwyr allweddol ar gynnwys y Polisi cyn cymeradwyo fersiwn derfynol y Polisi.
Mae’r dogfennau i’w cael ar http://www.s4c.co.uk/abouts4c/authority/c_index.shtml
Mae angen i bob ymatebydd gwblhau’r Ffurflen Ymateb. Dylid ebostio pob ymateb i Ysgrifennydd yr Awdurdod: phil.williams@s4c.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 4 Awst 2008.

