Gwahoddiad i Dendro Darpariaeth Golff 2008, 2009 a 2010
07-Gorff-2008
Mae S4C wedi sicrhau hawliau uchafbwyntiau byr o bencampwriaethau’r Gylchdaith Ewropeaidd a PGA America ynghyd ag amryw o gylchdeithiau eraill.
Mae S4C hefyd wedi sicrhau’r hawliau uchafbwyntiau nosweithiol yn ogystal â’r Seremoni Agoriadol o gystadleuaeth Cwpan Ryder 2010 sydd yn cael ei chynnal ar gwrs Celtic Manor, Casnewydd.
Gwahoddir cynhyrchwyr i gynnig am y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni uchafbwyntiau a fydd yn ymateb i ddisgwyliadau a dyheadau S4C. Mae S4C yn gwahodd syniadau am ddarpariaeth a fydd yn adlewyrchu ac yn cyflwyno holl fwrlwm golff yng Nghymru a’r byd mewn modd adloniadol ac apelgar. Dylid manteisio ar gyrsiau, lleoliadau a phersonoliaethau’r gamp yng Nghymru, er mwyn creu rhaglenni sy’n apelio at gynulleidfa eang, cynulleidfa sy’n dilyn y gamp a’r rheini sydd heb ymddiddori ynddo hyd yn hyn.
Bydd gofyn hefyd i’r ddarpariaeth adlewyrchu holl gyffro’r paratoadau ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Ryder 2010.
Lawrlwythwch wybodaeth am y tendr yma
Noder y dylid cynnwys y cyllidebau isod yn eich cais:
• Cyllideb fanwl ar gyfer rhaglenni wythnosol 2008
• Cyllideb fanwl ar gyfer rhaglenni o Gwpan Ryder 2010
• Amcanbris ar gyfer darpariaeth wythnosol 2009 a 2010

