Indus yn ennill cytundeb cynhyrchu golff
24-Gorff-2008
Mae’r cwmni teledu o Gaerdydd, Indus Films, wedi ennill y cytundeb i gynhyrchu cyfres golff newydd S4C yn dilyn proses dendro gystadleuol.
Bydd y cwmni’n gyfrifol am gynhyrchu rhaglen uchafbwyntiau golff sy’n cynnwys Cylchdaith Ewrop a Chylchdaith PGA yr Unol Daleithiau am y tair blynedd nesaf. Bydd y gyfres golff newydd yn dechrau ar 20 Awst.
Indus fydd hefyd yn cynhyrchu arlwy S4C o Gwpan Ryder Ewrop, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ymhen dwy flynedd. Bydd darllediadau’r sianel o Gwpan Ryder 2010 yn cynnwys rhaglen uchafbwyntiau nosweithiol, ynghyd â rhaglen rhagolwg arbennig noson cyn dechrau’r gystadleuaeth a fydd yn cynnwys uchafbwyntiau’r Seremoni Agoriadol.
