Croeso i S4/Clic
18-Medi-2008
Mae’n haws defnyddio gwasanaeth gwylio ar-lein S4C.
S4/Clic yw’r enw newydd ar y gwasanaeth, sy’n galluogi gwylwyr i fwynhau’r mwyafrif o raglenni S4C ar-lein am 35 diwrnod ar ôl y darllediad teledu cyntaf.
Mae gwefan bwrpasol S4/Clic wedi’i chreu, sy’n hawdd ei defnyddio. Mae’n bosib dod o hyd i gynnwys yn ôl categori, rhestr A-Y o raglenni a rhaglenni diweddar.
Mae isdeitlau Saesneg a Chymraeg fel arfer ar gael, drwy bwyso eicon y dylluan, a bydd testun yn nodi pan fydd modd gwylio rhaglen ar-lein yn fyd eang.
Yn ogystal, mae modd gwylio S4C digidol yn fyw ar wefan S4/Clic, a bydd cysylltiadau i wefannau cyfresi unigol. Ewch i www.s4c.co.uk/clic i fwynhau rhaglenni S4C.
