Gwerthiant Gofod Hysbysebu a Nawdd S4C
23-Medi-2008
Yn dilyn tendr agored, mae consortiwm Optimal Media Sales Ltd a Greenfield Media Solutions wedi’i gytundebu gan S4C Rhyngwladol (S4CRh) i gynhyrchu incwm hysbysebu a nawdd o’r cyfleoedd masnachol sydd ar gael o fewn gwasanaethau teledu a bandllydan S4C.
Gyda swyddfeydd yn Llundain, Manceinion a Chaerdydd, bydd Optimal yn gyfrifol am gynhyrchu incwm gwerthiannau ar gyfer S4CRh tra bydd Greenfield yn darparu gwasanaethau marchnata a chyfathrebu i gefnogi’r gweithgaredd gwerthiannau.
Hyd y cytundeb yw tair blynedd. Mae’n dod i rym ar 1 Ionawr, 2009.
Mae S4C Rhyngwladol yn isgwmni sy’n eiddo llwyr i S4C ac mae’n gyfrifol am greu incwm masnachol ar gyfer y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus.
