ADOLYGIAD Y DCMS O HELP I S4C
31-Maw-2004
Mae S4C wedi croesawu cyhoeddiad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ei bod, yn dilyn cais gan S4C, am ymgymryd ag adolygiad allanol o'r sianel fel arf gwerthfawr i helpu S4C gynllunio ar gyfer dyfodol pan fydd teledu i gyd yn ddigidol.
Bydd yr adolygiad, a gynhelir gan Roger Laughton, yn edrych yn arbennig ar ba mor effeithiol mae S4C yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddi ac ydy cynlluniau'r sianel yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Nodir y cynlluniau hynny yn adolygiad mewnol S4C ei hun, a gyhoeddir heddiw, ac a gyflwynir fel tystiolaeth i adolygiad Mr Laughton. Mae'n ystyried gallu S4C i ddarparu gwasanaeth teledu cyfan gwbl Gymraeg ar ôl diffodd analog, pan na fydd mwyach yn darlledu rhaglenni Channel 4.
Mae adolygiad S4C yn cynnig gweledigaeth strategol ar gyfer dyfodol S4C, gan gynnwys datblygu gofod segur S4C 2, cryfhau ei gwasanaeth craidd, ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd, datblygu ei gallu rhyngweithiol ac ymestyn ei gwasanaeth i blant. Tynnir sylw yn yr adolygiad hefyd at yr angen i ddatblygu partneriaethau creadigol newydd.
Mae'r adolygiad mewnol yn ystyried effaith ffactorau allanol ar S4C, gan gynnwys twf teledu aml-sianelog a'r newidiadau yn y boblogaeth Gymraeg ei hiaith. Daw hefyd i'r casgliad fod angen i'r berthynas gyda'r BBC gael ei chryfhau.
Daw'r adolygiad allanol, a fydd yn dilyn ei drywyddau penodol ei hun, i ben ym mis Mai.
Eglura Elan Closs Stephens, Cadeirydd S4C, "Mae S4C yn falch iawn fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ymateb mor gadarnhaol i gais y sianel am adolygiad allanol.
"Ar adeg pan fo pob agwedd ar amgylchedd teledu yn y Deyrnas Unedig o dan ystyriaeth gan Ofcom a'r DCMS ill dau, mae'n hanfodol fod dyfodol teledu yn yr iaith Gymraeg yn cael ei ystyried hefyd - ac mewn modd sy'n cymryd i ystyriaeth y manteision cymdeithasol ehangach a ddarperir gan y gwasanaeth.
"Gobeithio y bydd adolygiad y DCMS yn adeiladu ar ganlyniadau ein hadolygiad mewnol ni, gan ein cynorthwyo i gynllunio ar gyfer dyfodol sy'n llawn newidiadau a phosibiliadau cyffrous. Credwn mai dymuniad y Llywodraeth a'r cyhoedd yw gweld gwasanaeth teledu yn yr iaith Gymraeg sydd mor gryf a llwyddiannus â phosibl.
"Bydd yr adolygiad o gymorth inni adnabod yr hyn sydd ei angen i gynnal a datblygu'r gwasanaeth hwnnw. Mae'r adolygiad hefyd ynglyn â bod yn dryloyw - fel y dylai gwasanaeth darlledu cyhoeddus fod - a thynnu pawb sydd â rhan i'w chwarae i mewn i'n helpu i wynebu'r sialensau sydd o'n blaenau."

