Nodyn Atgoffa i Gynhyrchwyr
07-Hyd-2008
Mae rhai rhaglenni yn ddiweddar wedi eu cyfleu i S4C lle nad yw'r cydnabyddiaethau i gloi yn dilyn canllawiau S4C. Er mwyn osgoi gorfod dychwelyd tapiau a'r gost gysylltiedig i gynhyrchwyr o orfod ail-wneud gwaith gofynnwn i gynhyrchwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r canllawiau hyn a bod y cydnabyddiaethau yn dilyn y fformat a nodir yno. Mae copi o'r canllawiau i’w gweld ar safle cynhyrchu S4C http://www.s4c.co.uk/production/downloads/guidelines/c_endcreditguide.pdf
