Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Heroes yn cymryd rhan mewn hyfforddiant sgriptio yng Nghymru
16-Hyd-2008
Bydd y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd adnabyddus o Hollywood, David Semel, yn un o’r enwau mawr sy’n cymryd rhan mewn Penwythnos Sgriptio wedi’i drefnu gan y cwmni cymorth hyfforddi Cyfle mewn cydweithrediad ag S4C, ar 1 a 2 Tachwedd.
Gyda dros ddau ddegawd o brofiad, mae David yn cael ei ystyried yn un o’r Cynhyrchwyr/Cyfarwyddwyr mwyaf amryddawn a llwyddiannus yn y diwydiant adloniant ac yntau wedi gweithio ar ddramâu fel Heroes, House, Ally McBeal a Buffy the Vampire Slayer. Bydd yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb fel rhan o’r digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yn adeilad Atrium Prifysgol Morgannwg yng nghanol Nghaerdydd.
Bydd llu o westeion o ledled y byd ac o Gymru hefyd yn cymryd rhan mewn ystod eang o sesiynau a fydd yn ymdrin â drama ac animeiddio. Mae’r cyfranwyr yn cynnwys:
• Ashley Pharoah
Cyd-grëwr a sgriptiwr rhai o ddramâu teledu llwyddiannus diweddar gan gynnwys Life on Mars ac Ashes to Ashes.
• Barbara Slade
Sgriptwraig sydd wedi cael ei henwebu am wobr Emmy 5 o weithiau am Rugrats, Angelina Ballerina, Rotten Ralph a Winnie the Pooh. Mae Barbara hefyd wedi ysgrifennu i Working Title a Disney.
• Joanna Quinn
Animeiddwraig sydd wedi cael ei henwebu am Oscar ddwywaith. Enillodd ei ffilm ddiwethaf i S4C, Dreams and Desires - Family Ties, wobrau lu gan gynnwys gwobr Cartoon d’Or- am y cartŵn gorau.
• Tim Wright
Yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr rhyngweithiol, mae Tim wedi ennill dwy wobr BAFTA am ysgrifennu prosiectau rhyngweithiol: y disc hunangymorth Mind Gym a’r ddrama gwe ac e-bost, Online Caroline.
• Wyndham Price
Mae Wyndham wedi bod yn actio, ysgrifennu a chyfarwyddo ers mwy nag ugain mlynedd. Fe gwblhaodd ei ffilm gyntaf, Abraham’s Point, yn ddiweddar.
Meddai Dewi Wyn Williams, ymgynghorydd sgriptiau ar gyfer S4C, sy’n helpu trefnu’r digwyddiad: “Mae gennym ni restr wych o siaradwyr, a bydd y cwrs yn ysbrydoli, annog ac ysgogi sgriptwyr newydd a phrofiadol.“
Y ffi am fynychu’r cwrs deuddydd yw £100, ond mae gweithwyr rhyddgyfrannol o fewn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru yn cael mynychu am bris gostyngol o £2o.
Am fanylion llawn a phecyn cais, cysylltwch â Shân Gwenfron Hughes yn Cyfle ar: shan@cyfle.co.uk neu 0126 671 000.
