Neidio at y cynnwys

S4C

S4C i ddarlledu mewn Manylder Uwch

17-Hyd-2008

Cyhoeddodd Ofcom heddiw ei benderfyniad i gadw lle ar gyfer Channel 4 ac S4C, a deiliaid trwydded Channel 3 (ITV plc, Channel TV, stv ac UTV), i ddarlledu gwasanaethau Manylder Uwch (HD) newydd ar deledu digidol daearol.

Gellir dod o hyd i’r datganiad yn http://www.ofcom.org.uk/media/news/2008/10/nr_20081017?lang=cy

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan Ofcom ei bod wedi neilltuo lle i S4C a Channel 4 ddarlledu'r gwasanaethau Manylder Uwch newydd ar deledu daearol digidol, fe ryddhawyd y datganiad canlynol ar y cyd gan y ddau ddarlledwr:

“Rydym yn falch iawn bod cynnig Channel 4 ac S4C ar gyfer slot Manylder Uwch ar lwyfan Freeview wedi llwyddo. Bydd hyn yn galluogi Channel 4 i ddechrau darlledu'n gydamserol mewn Manylder Uwch yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn diwedd 2009 ac yn caniatáu i S4C ddarparu darllediadau cydamserol mewn Manylder Uwch yng Nghymru.

"Rydym ni'n credu bod darparu sianeli Manylder Uwch ar Freeview yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n gystadleuol mewn byd cwbl ddigidol ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio.

Mae copi o bolisi MU S4C wedi ei gynnwys ar ein Safle Cynhyrchu – Polisi Manylder Uwch S4C: http://www.s4c.co.uk/production/downloads/guidelines/c_polisi_manylderuwch.pdf

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales