Neidio at y cynnwys

S4C

Swydd: Cyfarwyddwr/wraig Polisi Corfforaethol

24-Tach-2008

Mae S4C yn gweithredu strategaeth uchelgeisiol i ddarparu gwasanaethau aml lwyfan perthnasol a phwrpasol i gynulleidfaoedd a hynny wrth i gyfnod y trosglwyddiad i ddigidol nesáu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion profiadol i weithio gyda'r Prif Weithredwr ac fel aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C i adnabod cyfleoedd ac wynebu heriadau ac i sicrhau fod S4C yn gweithredu polisïau ac yn ymateb yn briodol i newidiadau.

Byddwch yn bennaf gyfrifol am gynghori'r Prif Weithredwr, y Bwrdd Cyfarwyddwyr a swyddogion eraill am faterion yn ymwneud â chyflawniad priodol eu swyddogaethau ac am sicrhau cydymffurfiaeth â holl ddyletswyddau rheoleiddio a statudol S4C. Byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr i lunio polisïau ac ymatebion i ddogfennau ymgynghorol ar gyfer y Bwrdd. Byddwch yn cynrychioli barn a buddiannau S4C wrth ddelio â swyddogion yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ofcom, TAC a'r BBC. Bydd disgwyl i chi sicrhau cydymffurfiaeth â chodau canllawiau perthnasol Ofcom a sicrhau fod y Bwrdd Cyfarwyddwyr yn casglu gwybodaeth i fonitro perfformiad yn erbyn targedau.

Dylai fod gennych ddealltwriaeth o'r diwydiant cyfryngau a rôl S4C o fewn y diwydiant hynny. Rhaid eich bod yn gyfarwydd â datblygiadau ym maes digidol a'u heffaith ar S4C a'r gynulleidfa. Mae'r gallu i weithredu'n strategol, dylanwadu'n effeithiol a chydweithio'n broffesiynol gydag eraill yn hanfodol, ynghyd â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o ansawdd uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Bydd amodau'r swydd i'w trafod.

Gweithredir Polisi Cyfle Cyfartal

* Dyddiad Cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 1 Rhagfyr 2008

Ffurflen gais i'w phrintio

Am fanylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â Kay Walters, Pennaeth Adnoddau Dynol, drwy e-bostio kay.walters@s4c.co.uk neu ffonio 029 2074 1300.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales