Gwahoddiad i gyflwyno syniadau drwy’r wefan cynhyrchu.
22-Rhag-2008
Y Daith
Rydym yn dymuno darlledu cyfres o raglenni dogfen ym maes crefydd yn dilyn teithiau neu bererindodau yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn gwahodd cynhyrchwyr i anfon syniadau am raglenni drwy’r wefan cynhyrchu. Noder nad nid tendr yw’r broses hon ac fe fydd y syniadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r drefn gomisiynu arferol. Bydd y gyfres yn dilyn patrwm O’r Galon a Wynebau Newydd. Rydym yn rhagweld creu cyfres gyfansawdd o hyd at chwe rhaglen hanner awr.
Bydd y cynigion yn cael eu trafod yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2009. Felly dylai pob cynnig gyrraedd gwefan S4C erbyn 12:00 canol dydd, Gwener 23 Ionawr 2009. Mae’n fwriad cynhyrchu a darlledu'r gyfres yn ystod 2009. Fe fydd y gyfres yn cynnwys crefyddau gwahanol ac mae’n rhaid sicrhau rhaglenni cyfoes, gyda straeon gafaelgar a siaradwyr cryf.
Bydd cost y rhaglenni yn unol â’n tariffau ac yn ddibynnol ar y cynnwys golygyddol a gofynnwn i chi nodi amcan bris wrth gyflwyno’r cynnig drwy’r wefan.
Byddwn yn hysbysu cwmnïau fod gennym ddiddordeb mewn trafod y syniadau ymhellach erbyn dydd Llun 16 Chwefror 2009.
Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law.
